Newyddion

Job-opportunity-for-Quality-Manager-at-PTI-Cymru

Rydym yn recriwtio! Swydd Rheolwr Ansawdd ar gael yn PTI Cymru (Traveline Cymru)

20 Mai 2021

Ydych chi’n frwdfrydig ynghylch hwyluso a goruchwylio gwasanaeth o safon i gwsmeriaid ar draws ystod eang o sianelau?

Rydym yn chwilio am Reolwr Ansawdd i ymuno â thîm PTI Cymru (sefydliad ymbarél Traveline Cymru) i hwyluso a goruchwylio ansawdd y gwasanaeth yr ydym yn ei ddarparu. Rydym yn chwilio am rywun a all hybu diwylliant o wella’n barhaus er mwyn sicrhau bod pob cyswllt a wneir, waeth beth fo’r sianel, yn brofiad gwych i bob cwsmer. Bydd angen hefyd i chi sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu hyfforddi’n dda a bod strwythur gwych o ran cymorth ar gael ar gyfer eu timau.

A yw’n swnio fel y swydd iawn i chi? Os felly, gallwch weld y disgrifiad swydd a throsolwg o ofynion y swydd isod, ac mae rhagor o wybodaeth am PTI Cymru i’w chael yma.

 

Gallwch wneud cais am y swydd yma.

 

Trosolwg:

  • Hyd y contract: 12 mis
  • Math o swydd: Llawn-amser, dros dro
  • Cyflog: £30,000.00-£32,000.00 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg a Saesneg (yn ofynnol)
  • Lleoliad: Bydd y swydd yn golygu gweithio gartref, felly gallwch fod wedi eich lleoli yn unrhyw le yng Nghymru.
  • Parodrwydd i deithio: 50% (yn ofynnol)

 

Diben y swydd:

  • Hwyluso a goruchwylio ansawdd y gwasanaeth y mae’r cwmni yn ei ddarparu. Hybu diwylliant o wella’n barhaus er mwyn sicrhau bod pob cyswllt a wneir, waeth beth fo’r sianel, yn brofiad gwych i bob cwsmer, drwy sicrhau bod pob aelod o staff yn cael eu hyfforddi’n dda a bod strwythur gwych o ran cymorth ar gael ar gyfer eu timau:
  • Gweithio gyda’r Pennaeth Gweithrediadau ac uwch-reolwyr ar draws y busnes i ddatblygu a chynnal fframwaith sicrhau ansawdd.
  • Darparu gwasanaeth effeithlon a phroffesiynol bob amser gan gyflawni amcanion perfformiad fel y cytunwyd â deiliaid contract a’r Rheolwr Gyfarwyddwr.
  • Sicrhau bod staff, safonau gwasanaeth a phrosesau mewnol yn cael eu datblygu’n barhaus.
  • Monitro a dadansoddi lefelau bodlonrwydd ac adborth cwsmeriaid a rhanddeiliaid ar draws pob adran.

 

Dyletswyddau a phrif gyfrifoldebau:

  • Sefydlu a chynnal rhaglen sefydlu ar gyfer asiantiaid newydd y ganolfan gyswllt, ynghyd â phroses ystyrlon ar gyfer cymeradwyo cymhwysedd a throsglwyddo.
  • Datblygu strategaeth hyfforddi amrywiol ar gyfer y ganolfan gyswllt gan gynorthwyo’r rheolwyr a’r goruchwylwyr i gyflawni gwaith a sicrhau ffocws, drwy gyflwyno adborth yn rheolaidd ynghylch ansawdd galwadau a thrwy reoli gweithdai.
  • Gweithio gyda’r Rheolwr Marchnata ac Arweinydd y Tîm Darparu Gwasanaethau i ystyried ansawdd ar draws yr adrannau ac ystyried ble y mae angen gwella ac ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid.
  • Deall anghenion cwsmeriaid yn fewnol ac yn allanol a deall y gofynion er mwyn datblygu prosesau effeithiol ar gyfer rheoli ansawdd.
  • Rhoi adborth yn rheolaidd ynghylch contractau drwy adolygiadau cyfrif a rhaglenni cwsmer cudd, a chynorthwyo’r busnes i archwilio cyfleoedd i gael cwsmeriaid neu ffrydiau refeniw ychwanegol.
  • Adnabod bylchau mewn sgiliau ar draws y ganolfan gyswllt.
  • Defnyddio data allweddol a gwybodaeth am y farchnad i ddarparu argymhellion i’r uwch dîm rheoli.
  • Ystyried ansawdd ar draws amryw sianelau ac adrannau, gan gynnwys sianelau llais, sgyrsiau byw, e-bost a chyfryngau cymdeithasol.
  • Monitro ac asesu perfformiad asiantiaid ar sail cyfres o feini prawf.
  • Rhoi adborth i asiantiaid, ar y cyd â Rheolwr y Ganolfan Gyswllt, ynghylch sut y gallant wella.
  • Datblygu system fesur ar gyfer sgorau ansawdd er mwyn olrhain perfformiad unigolion a thimau.
  • Paratoi adroddiadau i’r tîm rheoli ynghylch ble y mae’r ganolfan gyswllt wedi gwella a ble y gallai wella ymhellach.
  • Cymryd cyfrifoldeb am gynnig hyfforddiant parhaus a chyfleoedd parhaus o ran datblygu i bob aelod o staff ar draws y ganolfan gyswllt.
  • Rhoi adborth cwsmeriaid ac adborth ynghylch cydymffurfio mewnol i’r tîm rheoli.
  • Mynychu cyfarfodydd tîm rheoli / bwrdd y cwmni fel y bo angen.
  • Ymgymryd o bryd i’w gilydd â thasgau eraill yn ôl y gofyn.
  • Glynu wrth bob un o bolisïau a gweithdrefnau’r cwmni a’u rhoi ar waith.
  • Cynorthwyo i wireddu gwerthoedd PTI Cymru yn effeithiol ar draws y busnes.
  • Y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol.
Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon