Newyddion

Stagecoach yn dathlu Mis Dal y Bws 2022 drwy hyrwyddo manteision dechrau teithio ar fysiau

Stagecoach yn dathlu Mis Dal y Bws 2022 drwy hyrwyddo manteision dechrau teithio ar fysiau

20 Medi 2022

  • Mae gweithredwr bysiau mwyaf y DU yn cefnogi Mis Dal y Bws a drefnir gan Bus Users UK ac a fydd yn digwydd drwy gydol mis Medi  
  • Mae data’n dangos bod modd arbed £800 y flwyddyn drwy ddechrau teithio ar fysiau ar gyfer dwy daith yr wythnos
  • Cyflwynwyd cyfres newydd o docynnau bws hyblyg yn ddiweddar, sy’n cynnig arbedion gwych

Mae ‘Mis Dal y Bws’ yn dechrau’r wythnos hon. Mae’n ymgyrch sy’n cael ei arwain gan Bus Users UK ac a fydd yn digwydd drwy gydol mis Medi er mwyn annog pobl i fynd ar y bws. Mae Stagecoach, gweithredwr bysiau mwyaf y DU, yn achub ar y cyfle i atgoffa pobl am fanteision dechrau teithio ar fysiau.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Stagecoach ystadegau sy’n dangos mai bysiau yw un o’r opsiynau rhataf o ran trafnidiaeth o hyd*. Mae data’n dangos bod costau taith mewn car ar gyfartaledd wedi cynyddu ddeuddeg gwaith yn fwy na chost taith ar fws yn ystod y chwe blynedd diwethaf. Drwy ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau teithio i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith, a dechrau teithio ar y bws yn lle’r trên ar gyfer dwy daith yr wythnos yn unig, gall pobl arbed hyd at £800 y flwyddyn ar eu costau teithio.

Mae manteision amgylcheddol mawr i’w cael hefyd o ddechrau teithio ar fysiau – gall defnyddio’r bws yn lle’r car ar gyfer dwy daith yr wythnos yn unig arbed dros 900 cilogram o allyriadau CO2 mewn blwyddyn, gyda defnyddwyr trenau’n arbed dros 1,500kh o CO2. Bysiau yw un o’r dulliau mwyaf cynaliadwy o deithio o hyd, a gall bws deulawr gymryd hyd at 75 o geir oddi ar y ffyrdd.

Mae Stagecoach yn buddsoddi llawer o arian mewn bysiau di-allyriadau newydd, ac yn rhan o’i Strategaeth Gynaliadwyedd mae wedi ymrwymo i gyflwyno fflyd o fysiau di-allyriadau yn y DU erbyn 2035. Cyhoeddodd yn ddiweddar mai Stagecoach fyddai’r gweithredwr cyntaf yn y DU, cyn bo hir, i gyflwyno rhwydweithiau bysiau trydan yn unig mewn dinasoedd, wrth i 89 o fysiau trydan gael eu cyflwyno i weithredu yn ninasoedd Inverness a Perth. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae wedi cyflwyno 80 o fysiau trydan yn yr Alban, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr a Llundain.

Mae’r gweithredwr bysiau yn awyddus i’w gwneud yn haws fyth i gwsmeriaid deithio’n fwy hyblyg. Yn ddiweddar, mae wedi cyflwyno cyfres newydd o docynnau bws hyblyg sy’n darparu gwerth gwych am arian i gwsmeriaid. Mae’r gyfres o docynnau Flexi yn cynnig arbedion ardderchog – mae cwsmeriaid yn prynu tocynnau Flexi mewn bwndeli o 5 neu 10 ac mae ganddynt hyd at 12 mis i’w defnyddio, gan arbed hyd at 30% ar y gost. Mae Flexi5 yn cynnig 5 o docynnau DayRider am bris 4 (20% o ostyngiad) ac mae Flexi10 yn cynnig 10 o docynnau DayRider am bris 7 (30% o ostyngiad). Gellir prynu tocynnau’n hawdd ac yn gyflym drwy ddefnyddio Ap Bysiau Stagecoach, a gellir talu â cherdyn banc neu drwy PayPal, Apple neu Google Pay.

Meddai Carla Stockton-Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn y DU: “Wrth i ni ddathlu dechrau Mis Dal y Bws, roeddem am achub ar y cyfle i atgoffa pobl am fanteision defnyddio’r bws a’u hannog i roi cynnig ar ddefnyddio’r bws.

“Mae ein hymchwil ddiweddar yn dangos y gall pobl arbed tipyn o arian wrth deithio’n ôl ac ymlaen i’r gwaith bob wythnos, hyd yn oed pe baent yn defnyddio’r bws yn lle’r car neu’r trên ar gyfer dwy daith yr wythnos yn unig. Mae teithio ar fysiau hefyd yn cynnig manteision amgylcheddol enfawr. Fel gweithredwr bysiau mwyaf Prydain, rydym yn falch bod gwasanaethau bws yn dal yn un o’r opsiynau teithio rhataf, ac rydym yn cynnig cyfleoedd gwych i arbed arian drwy ein cyfres o docynnau Flexi. Byddem yn annog pawb i fanteisio ar y cyfle yn ystod Mis Dal y Bws i ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau teithio i fynd yn ôl ac ymlaen i’r gwaith.”

Meddai Claire Walters, Prif Weithredwr Bus Users UK, sef yr elusen a sefydlodd Fis Dal y Bws: “Mae bysiau yn gwneud cyfraniad enfawr i fywydau pob un ohonom, o safbwynt cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. Maent hefyd yn hanfodol i gymunedau oherwydd maent yn darparu mynediad i addysg, gwaith, gofal iechyd, siopau a chyfleusterau hamdden. Rydym am weld mwy o bobl yn defnyddio bysiau yn ystod mis Medi, er mwyn diogelu’r gwasanaethau hanfodol hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Fis Dal y Bws, ewch i www.bususers.org/catchthebusmonth neu anfonwch ebost i catchthebus@bususers.org.

Ffynhonnell y wybodaeth: Grŵp Stagecoach

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon