Newyddion

Trosffordd Cyffordd Llandudno Ar Gau am 16 Diwrnod

Trosffordd Cyffordd Llandudno Ar Gau am 16 Diwrnod

03 Mehefin 2023

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi cyhoeddi y bydd trosffordd Cyffordd Llandudno ar gau i draffig am 16 diwrnod o ddydd Llun 19 Mehefin ymlaen, tra bydd contractwyr yn cwblhau’r gwaith adnewyddu parhaus.

Caiff y ffordd ei chau er mwyn sicrhau amodau gwaith diogel i ailadeiladu’r ffordd a disodli uniad ehangu’r bont ger arosfannau bysiau’r drosffordd.

Mae’r Cyngor yn cydweithio ag Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru i fanteisio ar y cyfnod o gau’r ffordd i wneud gwaith cynnal a chadw hanfodol arall ar hyd Ffordd Conway. Bydd hyn yn golygu na fydd angen cau rhan hon y ffordd eto yn y dyfodol agos.

Yn ystod y cyfnod cau, bydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A55 a thrwy dwnnel Conwy, gyda cherbydau’n gallu troi am Gonwy yng nghyffordd 17. Bydd angen i draffig nad yw’n cael teithio ar draffyrdd, a fydd yn methu defnyddio’r A55, deithio ar hyd yr A470 i groesi yn Nhal-y-cafn, neu ganfod ffordd arall o deithio.

Bydd mynediad ar gael o gylchfan y Weekly News i Ddeganwy, Cyffordd Llandudno a chylchfan Tesco. Bydd traffig o gylchfan Tesco yn parhau i gael ei ddargyfeirio ar hyd yr A55.

Mae’r Cyngor yn trefnu bws gwennol rhwng Conwy a Chyffordd Llandudno tra bydd y drosffordd ar gau, gan na fydd bysiau ar amserlen yn gwasanaethu Conwy. Bydd cludiant ar fysiau ysgol yn parhau i weithredu; rhoddir gwybod i ddysgwyr yn uniongyrchol am unrhyw fân newidiadau i’r amserlen.

Bydd cerddwyr a beicwyr yn gallu teithio drwy’r safle o Gonwy at y grisiau ar ochr Cyffordd Llandudno, ger Lidl.

Roedd y gwaith ar y drosffordd i fod i gael ei gwblhau ar 20 Gorffennaf, ond mae disgwyl iddo bellach orffen yn gynt.

Dywedodd y Cynghorydd Goronwy Edwards, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Ffyrdd a Chyfleusterau - Isadeiledd: “Rydym yn deall y bydd cau’r drosffordd yn achosi llawer o drafferth, ond dyma’r unig ffordd o gwblhau'r gwaith adnewyddu. Hoffwn ddiolch i bob un oedd wedi’u heffeithio am eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth. Mae disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau’n gynt na’r targed.  Ar ôl cwblhau’r gwaith hwn, bydd y drosffordd a’r bont yn dal dŵr yn gyfan gwbl ac yn barod i gludo traffig am flynyddoedd i ddod.”

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon