Newyddion

Newidiadau dros dro i’r ffyrdd ar gyfer Sioe Awyr Cymru

Newidiadau dros dro i’r ffyrdd ar gyfer Sioe Awyr Cymru

27 Mehefin 2023

Mae’r newidiadau dros dro ar gyfer sioe 2023 yr un peth â’r rheini a oedd ar waith ar gyfer y digwyddiad hynod lwyddiannus yr haf diwethaf.

Byddant yn cynnwys ardaloedd glan môr ar hyd Oystermouth Road a Mumbles Road, a nifer o ffyrdd yn ardal Sandfields a Pantycelyn Road, Townhill. Bydd arwyddion i ddangos dargyfeiriadau.
Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin ac 11pm ar 4 Gorffennaf.

Bydd mynediad i gerbydau argyfwng ar bob adeg a gellir cael mynediad i’r Marina, Ysbyty Singleton a Phrifysgol Abertawe o hyd. Rhoddwyd gwybod i unrhyw fusnesau a sefydliadau yr effeithir arnynt yn uniongyrchol.

Mae diogelwch yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol ar benwythnos yn y ddinas y disgwylir iddo fod yn brysur. Mae trefniadau ar waith ar gyfer parcio a mynediad i wylwyr, gyda chyfleusterau fel parcio a theithio.

Meddai Aelod Cabinet y cyngor, Robert Francis-Davies, “Hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu cydweithrediad a’u dealltwriaeth.”
Gall pobl sydd â phryderon ynghylch mynediad neu broblemau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad dros ddau ddiwrnod y Sioe Awyr ffonio’r llinell gyswllt i breswylwyr a busnesau ar 01792 635428 rhwng 10am a 6.30pm. Ar gyfer ymholiadau eraill: special.events@abertawe.gov.uk – 01792 635428 (oriau swyddfa arferol).

Rhagor:
Sioe Awyr Cymru, gan gynnwys newidiadau i’r ffyrdd: www.sioeawyrcymru.com
Parcio a archebwyd ymlaen llaw: www.bit.ly/WA23parking
Rhagor o wybodaeth: www.croesobaeabertawe.com/gwybodaeth-i-breswylwyr/


Sioe Awyr Cymru 2023 – mae newidiadau i’r ffyrdd yn cynnwys y canlynol:


O ganol dydd, ddydd Gwener 30 Mehefin
Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau tua’r gorllewin yn unig – o gyffordd West Way i Brynmill Lane. Ni cheir mynediad at ffordd gerbydau Oystermouth Road tua’r dwyrain neu oddi wrthi ar y cyffyrdd â Bond Street, Beach Street a St Helen’s Road (y gyffordd sydd agosaf at far a bwyty Thai Bay View) yn ystod y cyfnod hwn.
Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.

Yna, o 5am ddydd Sadwrn 1 Gorffennaf i 5am ddydd Llun 3 Gorffennaf
Bydd Oystermouth Road/Mumbles Road ar gau i’r ddau gyfeiriad o gyffordd West Way i Sketty Lane a bydd dargyfeiriadau ar waith ag arwyddion.
Cynhelir mynediad i’r Marina drwy Dunvant Place.
Bydd mynediad i Argyle Street drwy ddilyn dargyfeiriad byr heibio’r Ganolfan Ddinesig.
Bydd Pantycelyn Road ar gau (rhwng Dyfed Avenue a Townhill Road) rhwng 8am a 7pm ddydd Sadwrn a dydd Sul
Cynhelir mynediad i Brifysgol Abertawe a Brynmill Lane drwy Sketty Lane


Er diogelwch ac i helpu llif y traffig, sicrheir na fydd cerbydau’n parcio ar rai ffyrdd. Bydd hyn yn golygu cyfyngiadau parcio ar rai ffyrdd. Gofynnir i’r rheini yr effeithir arnynt oherwydd cau ffyrdd i symud eu cerbydau i leoliad arall.

Bydd cyfyngiadau parcio a pharth halio cerbyd ymaith o ganol dydd ar 30 Mehefin i 3 Gorffennaf ar y ffyrdd canlynol:
• dwy ochr Oystermouth Road/Mumbles Road yn ardal y Sioe Awyr – ewch i www.walesnationalairshow.com/cy/gwybodaeth-i-ymwelwyr/ffyrddargau am ragor o fanylion ac i weld map o ardal y Sioe Awyr;
• dwy ochr Bryn Road.


Ni fydd Prom Abertawe rhwng y Ganolfan Ddinesig a Sketty Lane ar agor i feicwyr rhwng 7am ar 29 Mehefin i 11pm ar 4 Gorffennaf.

Ffynhonnell y wybodaeth: Cyngor Abertawe

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon