Newyddion

Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Gwella ar gyfer Lein Wrecsam i Bidston

Trafnidiaeth Cymru yn cyhoeddi Cynllun Gwella ar gyfer Lein Wrecsam i Bidston

03 Gorffennaf 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi ei gynllun gwella 5 cam ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd ar y lein rhwng Wrecsam a Bidston yng Ngogledd Cymru a'r gororau.

Yn ddiweddar, ymwelodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru, â Gogledd Cymru i weld y trenau Dosbarth 230 newydd sy'n gwasanaethu ar hyd y lein.  Cafodd hefyd daith o amgylch y depo trenau ym Mhenbedw, depo y mae TrC wedi buddsoddi ynddo'n ddiweddar i helpu i gynnal y trenau newydd hyn. 

Mae'r cynllun 5 cam yn cynnwys gwella dibynadwyedd y trenau Dosbarth 230 newydd trwy fuddsoddi yn y depo newydd ym Mhenbedw, gwella gwasanaeth cwsmeriaid a’r gwybodaeth sydd ar gael yn ystod cyfnod o darfu a chadw'r holl wasanaethau bws yn lle trên i'r isafswm. 

Gan ddysgu o adborth cwsmeriaid, mae TrC hefyd wedi ymrwymo i wneud prynu tocynnau mor hawdd â phosibl ac mae'n adolygu'r holl opsiynau tocynnau, yn ogystal ag adolygu'n barhaus yr amserlen reilffyrdd.

Dywedodd James Price, Prif Swyddog Gweithredol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydym yn deall pa mor rhwystredig mae hi wedi bod dros y misoedd diwethaf 'ma i deithwyr sy'n teithio ar hyd y lein rhwng Wrecsam a Bidston.  Yn gyntaf, roedd rhaid gohirio'r gwasanaeth trên oherwydd mater diogelwch gyda pheiriannau ar ein trenau.  Arweiniodd hyn at orfod rhoi gwasanaeth bws yn lle trên ar waith.

“Yn dilyn hynny, fe wnaethon ni ddechrau rhedeg ein trenau Dosbarth 230 wedi'u hadnewyddu ar hyd y lein ond yn anffodus, fe gawson ni broblemau technegol ar y dechrau.

“Fodd bynnag, rwy'n falch o gyhoeddi heddiw bod gennym bellach gynllun gwella 5 cam ar waith a fydd yn canolbwyntio ar sefydlogi dibynadwyedd ein trenau newydd a gwella'r gwasanaeth.  Rwyf wedi ymweld â'r depo newydd ym Mhenbedw; bydd hyn yn ein galluogi i fod yn fwy ymatebol wrth fynd ati i gynnal a chadw ein trenau Dosbarth 230; rwy'n argyhoeddedig ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i wella’r gwasanaeth hwn dros y misoedd nesaf."

 

 
 
Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon