Newyddion

Bysus am ddim yn ôl ar gyfer y gwyliau ysgol (Abertawe)

Bysus am ddim yn ôl ar gyfer y gwyliau ysgol (Abertawe)

09 Gorffennaf 2023

Mae'r gwasanaeth poblogaidd yn ôl am drydydd haf wrth i ffigurau newydd ddatgelu bod preswylwyr ac ymwelwyr fel y'i gilydd wedi mwynhau bron  hanner miliwn o deithiau yn ystod dau dymor haf cyntaf y cynnig.

Bydd penwythnosau hir o ddydd Gwener i ddydd Llun o deithio ar fysus am ddim, os yw'r daith yn dechrau ac yn gorffen yn Abertawe, yn cychwyn ar 28 Gorffennaf ac yn parhau tan ŵyl banc 28 Awst.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Mae'r cynnig bysus am ddim yn Abertawe wedi bod yn llwyddiant ysgubol. Hon oedd y fenter gyntaf o'i bath yng Nghymru i gynnig teithiau ar fysus am ddim i bawb ac mae pobl wedi mynd ar bron hanner miliwn o deithiau yn ei ddau haf cyntaf.

"Ar adeg pan mae pob un ohonom yn gorfod ymdrin â'r argyfwng costau byw a rhenti a morgeisi sy'n codi, bydd dychweliad cynnig bysus am ddim Abertawe yn cael ei groesawu gan lawer o deuluoedd.

"O'r adborth rydym wedi'i gael yn y gorffennol, mae'n amlwg ei fod wedi helpu teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd i fynd i leoedd y byddent wedi cael trafferth fforddio ymweld â nhw fel arall.

"Mae'r cynnig bysus am ddim ar ben cynigion parcio yng nghanol y ddinas rhatach ac am ddim rydym hefyd yn bwriadu eu cyflwyno yn yr wythnosau i ddod."

Ceir rhagor o wybodaeth yma am gynnig Bysus Am Ddim Abertawe yr haf hwn. Mae'r cynnig ar gael o ddydd Gwener i ddydd Llun ar bob gwasanaeth bws sy'n gweithredu yn Abertawe. Rhaid i bob taith gychwyn a gorffen o fewn ffiniau Cyngor Abertawe a rhaid i bob taith ddechrau cyn 7pm ar ddiwrnodau'r cynnig.

Gwybodaeth: https://www.abertawe.gov.uk/bysusamddim 

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon