Newyddion

Y diweddaraf ynghylch teithio ar 20, 22 a 29 Gorffennaf

Y diweddaraf ynghylch teithio ar 20, 22 a 29 Gorffennaf

17 Gorffennaf 2023

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn atgoffa teithwyr ei bod hi'n bwysig gwirio am yr wybodaeth deithio ddiweddaraf yn sgil gweithredu diwydiannol a gynhelir ddiwedd fis Gorffennaf.

Mae Undeb RMT wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal tri diwrnod o weithredu diwydiannol fydd yn effeithio ar 14 o gwmnïau gweithredu trenau yn ystod mis Gorffennaf.  Y dyddiau yw:  ddydd Iau 20 Gorffennaf, dydd Sadwrn 22 Gorffennaf a ddydd Sadwrn 29 Gorffennaf.

Dyw TrC ddim yn ymwneud â’r gweithredu diwydiannol ond mae rhai o'i wasanaethau'n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i'r amserlen a roddwyd ar waith gan weithredwyr eraill. 

Bydd TrC yn rhedeg ei wasanaethau yn ôl ei amserlen arferol, ond, mae'n fwy na thebyg y bydd gwasanaethau'n brysurach na'r arfer oherwydd y bydd gweithredwyr trenau eraill yn cymryd rhan yn y gweithredu diwydiannol, yn enwedig y gwasanaethau isod:

  • Caerfyrddin - Abertawe - Pen-y-bont ar Ogwr - Canol Caerdydd - Casnewydd - Cyffordd Twnnel Hafren
  • Caerloyw - Cheltenham
  • Gogledd Cymru - Caer - Crewe - Manceinion
  • Amwythig - Birmingham International

I gael yr wybodaeth deithio ddiweddaraf, ewch i Journey Check, gwefan Trafnidiaeth Cymru neu ap TrC, sydd wedi ennill gwobrau. 

Ffynhonnell y wybodaeth: TrC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon