Newyddion

Cyngor teithio – 30 Medi a 4 Hydref

Cyngor teithio – 30 Medi a 4 Hydref

24 Medi 2023

Bydd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithredu fel arfer ddydd Sadwrn 30 Medi a dydd Mercher 4 Hydref.

Mae ASLEF wedi cyhoeddi y bydd 16 cwmni gweithredu trenau (TOC) yn Lloegr yn cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol ddydd Sadwrn 30 Medi a dydd Mercher 4 Hydref a gwaherddir unrhyw oramser rhwng dydd Llun 2 Hydref a dydd Gwener 6 Hydref.

Dyw staff TrC ddim yn rhan o'r gweithredu diwydiannol hwn ac yn rhedeg amserlen lawn ar y ddau ddiwrnod.

Dywedodd Jan Chaudhry-Van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau TrC: “Hoffem atgoffa teithwyr y bydd ein trenau yn rhedeg fel arfer, ac ni fydd y gweithredu diwydiannol a gynhelir ar 30 Medi a 4 Hydref yn effeithio arnynt.

“Gan y bydd teithiau rhai teithwyr yn golygu defnyddio cwmnïau trenau fydd yn rhan o'r gweithredu, mae'n hollbwysig bod pawb yn gwirio'r wybodaeth deithio ddiweddaraf ar ddyddiau'r gweithredu diwydiannol ac yn y ystod cyfnod y gwaherddir y goramser.”

Ffynhonnell y wybodaeth:TrC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon