Newyddion

Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pum gorsaf reilffordd newydd yn Ne Ddwyrain Cymru ynghyd â rhagor o wasanaethau trawsffiniol

Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer pum gorsaf reilffordd newydd yn Ne Ddwyrain Cymru ynghyd â rhagor o wasanaethau trawsffiniol

15 Hydref 2023

Mae cynlluniau uchelgeisiol Trafnidiaeth Cymru i wella trafnidiaeth gyhoeddus gam yn nes, gydag ymgynghoriad cyhoeddus ar bum gorsaf newydd yn Ne-ddwyrain Cymru a gwasanaethau trên newydd yn cael eu lansio heddiw.

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd i roi eu barn fel rhan o ymgynghoriad 13 wythnos sy'n dechrau heddiw (6 Hydref) nes 14 Ionawr.  Cliciwch ar y ddolen hon i gael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad: Dweudeichdweud.trc.cymru/ddc-gorsafoedd-a-gwasanaethau-newydd 

Mae Trafnidiaeth Cymru yn awyddus i gael adborth ar ddyluniadau gorsafoedd posibl yn Nwyrain Caerdydd, Gorllewin Casnewydd, Somerton, Llanwern a Magwyr a Gwndy, gan gynnwys y mathau o gyfleusterau yr hoffai pobl eu gweld ym mhob gorsaf.

Hefyd, gofynnir i aelodau'r cyhoedd am eu barn ar wasanaethau trên newydd rhwng Caerdydd, Bryste a Cheltenham Spa allai ddarparu'r gorsafoedd newydd gyda hyd at bedwar trên yr awr a chynyddu amlder y gwasanaethau yn y gorsafoedd presennol ar hyd y ffordd hefyd.

Os caiff y cynlluniau eu hariannu, bydd y cynigion yn creu cyfleoedd newydd ar gyfer teithio lleol a  thrawsffiniol uniongyrchol ar ddwy ochr yr Hafren ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Mae'r cynigion yn argymhellion allweddol gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, a gyflwynir fel rhan o Raglen Prif Linell De Cymru, sy'n ceisio gwella'n fawr y ffordd y mae pobl yn cael mynediad at y rheilffordd ac yn teithio arni. 

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau galw heibio fel bod aelodau'r cyhoedd yn cael cyfle i drafod y dyluniadau a'r cynigion ar gyfer y gwasanaethau hyn gyda thimau'r prosiect.  Dyma fanylion y digwyddiadau:

  • Gorsaf Somerton - Eglwys y Bedyddwyr Lliswerry - 23 Hydref, 13:00 – 19:30
  • Gorsaf Llanwern - Neuadd Bentref Llanwern - 24 Hydref, 12:00 – 19:30
  • Gorsaf Dwyrain Caerdydd (Heol Casnewydd) - Clwb Rygbi San Pedr - 26 Hydref 2023, 12:00 – 19:30
  • Gorsaf Gorllewin Casnewydd - Canolfan Gymunedol Maes Glas - 6 Tachwedd, 12:00 – 19:30
  • Gorsaf Llanwern - Ysgol Gynradd Glan Llyn - 7 Tachwedd, 16:45 – 18:30
  • Gorsaf Magor a Gwndy - Hwb Cymunedol Gwndy - 9 Tachwedd, 12:00 – 19:30

Dywedodd Geoff Ogden, Prif Swyddog Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth:

“Mae ein gweledigaeth ar gyfer Cymru yn un lle mae gan bob un ohonom fwy o gyfleoedd i fyw bywydau iachach a hapusach.  I ni, mae datgloi gallu prif linell De Cymru yn allweddol i newid y ffordd y mae pobl yn teithio yn y rhanbarth.

Rydym yn falch o rannu ein cynigion ar gyfer pum gorsaf newydd rhwng Canol Caerdydd a Chyffordd Twnnel Hafren a fydd, ynghyd â'r gwasanaethau newydd, yn cynnig cyfle i fwy o bobl deithio ar y rheilffordd.

Rydym yn gwybod y bydd y cynlluniau hyn yn gwella o gael adborth gan y cyhoedd.  Dyna pam rydyn ni'n gofyn i bobl rannu eu syniadau gyda ni.”

Ffynhonnell y wybodaeth:TrC

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon