Mae tocyn diwrnod sy'n caniatáu i chi deithio heb gyfyngiad ar fysiau ar draws Cymru wedi cael ei lansio heddiw gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates.
GHA Coaches yn mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ddydd Iau 14 Gorffennaf 2016
Mae’r gweithredwr bysiau GHA Coaches wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr, ac oherwydd hynny ni fydd yn rhedeg gwasanaethau o ddydd Iau 14 Gorffennaf 2016 ymlaen.
Gyrrwr bws o Faesteg yn cael ei wobrwyo’n arwr am ei ymdrechion i achub bywyd dyn
Mae gyrrwr bws o Faesteg wedi cael ei wobrwyo’n arwr yng Ngwobrau Rhagoriaeth First Bus am ei ymdrechion i achub bywyd dyn a gafodd ei anafu mewn damwain ffordd.
Pawb sy’n gwisgo coch yn cael teithio am ddim ar ôl 4pm yfory
Bydd defnyddwyr bysiau sy’n gwisgo coch yfory (dydd Mercher 6 Gorffennaf) yn cael teithio’n rhad ac am ddim o 4pm ymlaen, wrth i First Cymru ymuno i gefnogi tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth i’r chwaraewyr geisio ennill eu lle yn rownd derfynol Euro 2016.
Teithio ar fysiau First Cymru yn ystod Wythnos Dal y Bws
Mae’r gweithredwr bysiau First Cymru yn annog pobl i ddefnyddio bysiau’r wythnos hon, wrth i Wythnos Dal y Bws gael ei chynnal am y pedwerydd tro yn y DU (4-10 Gorffennaf).
New Adventure Travel yn dathlu Wythnos Dal y Bws drwy gynnal digwyddiadau ar hyd a lled de Cymru
Mae Wythnos Dal y Bws yn ddathliad blynyddol a drefnir gan Greener Journeys i gydnabod pwysigrwydd bysiau i’r amrywiaeth o ddulliau teithio sydd ar gael yn y DU.
Cyfle’n codi i deithwyr ar drenau yng Nghymru ddefnyddio eu ffôn fel tocyn
Yn fuan, bydd teithwyr sy’n defnyddio gwasanaethau Trenau Arriva Cymru yn gallu defnyddio tocynnau ar eu ffôn, drwy sganio tocyn digidol sydd ar eu ffôn symudol yn yr orsaf.
Mae’n siŵr bod sawl un ohonom wedi breuddwydio am gael eistedd yn sedd y gyrrwr bws pan oeddem yn blant. Ac roedd cael gwneud hynny’n brofiad arbennig i Toby Williams, 9 oed, o Hwlffordd pan gafodd gyfle i archwilio bws ac ynddo 37 sedd.
Gwasanaeth bws rhif 19 newydd Llew Jones International yn cael ei lansio yng nghwmni gwestai arbennig, Guto Bebb AS
Cynhaliodd Llew Jones International ddigwyddiad agored i bawb er mwyn lansio gwasanaeth bws newydd sbon â chyfleuster WiFi, sef gwasanaeth rhif 19. Cafodd y digwyddiad lansio ei gynnal ddydd Llun Gŵyl y Banc ar Sgwâr Llanrwst.
Cyfle i ennill iPhone drwy fynd i’r Bannau yn y Flwyddyn Newydd
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio ddydd Llun 4 Ionawr ar Instagram wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyhoeddi cyfle i ennill iPhone 6S i ddathlu Blwyddyn Antur 2016 Cymru.
Traveline Cymru yn lansio gwasanaeth gwybodaeth newydd i fyfyrwyr
Mae Traveline Cymru, sef gwasanaeth Llywodraeth Cymru sy’n rhoi gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus, wedi lansio gwefan wybodaeth newydd yn benodol i fyfyrwyr.
Gallwch wneud eich profiad gyda ni’n fwy personol drwy gofrestru â’ch cyfrif eich hun. Yma, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, gweld problemau teithio a llawer mwy drwy deilwra eich taith i ddiwallu eich anghenion.