Problemau teithio

Bws Caerdydd

Ni fydd modd defnyddio arhosfan JU ar Stryd Havelock am ryw 4 - 6 wythnos o ddydd Iau 11 Gorffennaf ymlaen.

O ganlyniad, bydd gwasanaeth 27 yn dechrau ac yn gorffen yn Stryd Wood (arhosfan JR) yng nghanol y ddinas ac yna’n gadael y ddinas ar hyd Heol Scott, Heol y Parc a Heol y Porth. Bydd arosfannau bysiau ar Stryd y Castell a Ffordd y Brenin yn cael eu gwasanaethu yn ôl yr arfer.

*Nodwch y bydd dargyfeiriadau ar waith o 15/07/2019 tan 17/07/2019 o ganlyniad i brotest Extinction Rebellion yng nghanol y ddinas.
Yn ôl