Problemau teithio

Mae Extinction Rebellion yn protestio yng nghanol Caerdydd o 15/07/2019 tan 17/07/2019. Mae gwasanaethau’n cael eu dargyfeirio ar hyn o bryd ac mae yna oedi mawr. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon wrth i wybodaeth ein cyrraedd.

 

Bydd diweddariadau byw ynghylch y sefyllfa’n cael eu rhoi ar wefan WalesOnline drwy gydol y dydd.

 

Bws Caerdydd

Baycar 6:  Bydd teithiau o Fae Caerdydd yn gorffen yn Heol Eglwys Fair (Philharmonic).  Bydd teithiau i Fae Caerdydd yn dechrau yn Heol Eglwys Fair (Arcêd Wyndham).

Bydd gwasanaethau 8/9 ac X45 i Fae Caerdydd / y Pentref Chwaraeon yn teithio ar hyd Rhodfa’r Orsaf a Heol y Tollty i Stryd Wood (Arhosfan JQ) ac yna’n teithio ar hyd eu llwybr arferol i Fae Caerdydd / y Pentref Chwaraeon.

Nid oes unrhyw newid i deithiau i Ysbyty’r Waun (8/9) na Llaneirwg (X45).

Bydd gwasanaeth 13 i’r Pentref Chwaraeon yn teithio ar hyd Neville Street, Stryd Wood, Heol Eglwys Fair a Heol y Tollty ac yna ymlaen i’r Pentref Chwaraeon. Nid oes unrhyw newid i deithiau i’r Ddrôp.

Bydd gwasanaethau 21, 23 a 27 yn dechrau ac yn gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion. 

Bydd gwasanaethau 15, 17, 18, 24, 25, 61, 63, 64 a 66 yn teithio ar hyd Neville Street a Fitzhamon Embankment i Stryd Wood ac yna Heol y Porth.  Bydd gwasanaethau 24 a 63 yn teithio ar hyd Heol Llandaf, Heol Orllewinol y Bont-faen a Neville Street, yn hytrach na Heol y Gadeirlan.

Bydd gwasanaethau 28, 28A a 30 yn teithio i ganol y ddinas ar hyd Rhodfa’r Orsaf, ac yn dechrau ac yn gorffen yn Heol Pont-yr-Aes (28, 28A) a Heol y Tollty (gwasanaeth 30).

Bydd bysiau ar wasanaethau 44/45, 49/50, 52 a 57/58 yn teithio ar hyd Rhodfa’r Orsaf a Heol y Tollty i Heol y Porth (Royal Hotel) ac yn gorffen eu taith yno.  Bydd bysiau sy’n teithio o ganol y ddinas yn dechrau yn Heol y Porth (Royal Hotel) ac yna’n teithio ar hyd Heol y Tollty, Bute Terrace a Ffordd Churchill.

Bydd gwasanaeth 95 i Ysbyty’r Waun ac oddi yno’n teithio ar hyd Heol y Tollty, Rhodfa’r Orsaf a Phlas Dumfries i’r ddau gyfeiriad.

Nid oes unrhyw newidiadau i wasanaethau 1, 2, 92, 93, 94, 95A, 95B, 96 ac X59.

 

Please click here for information from Cardiff Bus as to where you can catch your bus from.

 

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Yng Nghaerdydd, oherwydd bod protestwyr yn blocio Heol y Castell, bydd pob un o’n gwasanaethau yn dechrau ac yn gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion.

Bydd y drefn hon yn parhau cyhyd ag y bydd y protestwyr yn dal i flocio’r ffordd.

Bydd bysiau 122 a 124 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol y Gogledd DRWY GYDOL Y DYDD ac NI FYDDANT yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan.

NI FYDD bws 25 yn gwasanaethu Rhodfa Lloyd George a Bae Caerdydd.

 

 

NAT

Cliciwch yma

 

 

Newport Bus

9:00am

Ni all ein gwasanaeth 30 wasanaethu Heol y Tollty o gyfeiriad canol y ddinas, oherwydd Protest Extinction Rebellion. Bydd y bws yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Mill Street, Canal Street, Bute Terrace, Ffordd Churchill a Rhodfa’r Orsaf i Heol Casnewydd yng Nghaerdydd, nes y clywch yn wahanol.

 

Yn ôl