Cwestiynau cyffredin

Cwestiynau cyffredin

C. Sut mae cynllunio taith?

A. Ewch i’n Cynlluniwr Taith sydd yn yr hafan. Nodwch fan cychwyn eich taith, pen y daith a’r dyddiad a’r amser yr ydych am deithio. Gallwch hefyd ddewis a fyddech yn hoffi teithio ar y bws, ar y trên neu’n syth i’r lleoliad, yn ogystal â nodi eich cyflymder cerdded arferol a faint o weithiau y byddech yn fodlon newid. Yna, wrth glicio ar ‘Cynllunio fy nhaith’, fe welwch chi fanylion y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y daith yr ydych wedi’i dewis. Cliciwch ar yr amser yr ydych yn ei ffafrio, a bydd manylion llawn y daith yn ymddangos gan gynnwys mapiau o’r daith, amserlenni, gwybodaeth am brisiau tocynnau a gwybodaeth am unrhyw broblemau teithio.

Fel arall, gallwch gynllunio eich taith drwy ffonio ein Canolfan Gyswllt yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 rhwng 07:00 a 20:00 bob dydd; bydd yr asiantiaid yno wrth law i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych ynghylch teithiau. Gwasanaeth cyfyngedig sydd ar gael ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Dydd Calan.

 

C. Sut mae dod o hyd i amserlenni?

A. O fynd i’n tudalen Amserlenni, byddwch yn gallu chwilio am amserlenni yn ôl rhif y gwasanaeth. Yna, cliciwch ar y botwm ‘Chwilio’ ac fe welwch chi restr o amserlenni sy’n cyd-fynd â rhif y gwasanaeth y gwnaethoch chwilio amdano. Dewiswch yr amserlen berthnasol (byddwch yn gallu gweld yr ardaloedd y mae pob gwasanaeth yn eu gwasanaethu) er mwyn gweld yr amserlen lawn a map o’r llwybr. Cliciwch ar ‘Dangos pob arhosfan’ os hoffech weld yr holl arosfannau sydd ar hyd y llwybr.

At hynny, ar frig y dudalen, gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o’r amserlen a chlicio ar y botwm ‘Gweld problemau teithio’ er mwyn gweld y problemau teithio a allai effeithio ar eich gwasanaeth.


C. Sut mae defnyddio’r Map Teithio?

A. Mae Map Teithio Traveline Cymru yn disodli ein Chwiliwr Arosfannau Bysiau ac mae’n eich galluogi i weld yr holl arosfannau bysiau, gorsafoedd trenau, arosfannau parcio a theithio a gorsafoedd Nextbike sydd yn yr ardal yr ydych am chwilio ynddi.

Chwiliwch am ardal yr hoffech deithio ynddi neu defnyddiwch eich lleoliad presennol. Dewiswch faint bynnag o’r eiconau teithio yr hoffech eu gweld ar y map ar un adeg. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar unrhyw un o’r eiconau teithio yn yr ardal yr ydych am chwilio ynddi.

Bydd y wybodaeth a gewch yn cynnwys amserlenni gwasanaethau bws sy’n gwasanaethu arhosfan, manylion am amserlenni a chyfleusterau arosfannau parcio a theithio, a faint o feiciau sydd ar gael mewn gorsaf Nextbike.

 

C. Sut mae cofrestru i agor cyfrif, a beth mae’n ei wneud?

A. Yn y gornel dde ar frig sgrin eich porwr, dewiswch y botwm ‘Addasu fy nhaith’. Yna, gallwch lenwi’r ffurflen gofrestru er mwyn agor cyfrif. Bydd cael cyfrif yn eich galluogi i gadw eich hoff arosfannau, teithiau ac amserlenni, sy’n golygu y bydd modd i chi gael gafael arnynt yn hawdd ac yn syth o’ch cyfrif. Yn ogystal, byddwch yn gallu gweld y problemau teithio sy’n berthnasol i’r gwasanaethau yr ydych wedi’u dewis fel ffefrynnau.

Yn yr adran ‘Dewisiadau’ yn eich cyfrif, gallwch newid eich gosodiadau chwilio diofyn ar gyfer y Cynlluniwr Taith. Mae hynny’n cynnwys cynyddu neu leihau eich pellter cerdded mwyaf, o ran nifer y metrau y gallwch eu cerdded yn rhan o’ch taith. Bydd cynyddu’r nifer yn galluogi’r Cynlluniwr Taith i ddangos amrywiaeth ehangach o ganlyniadau chwilio.

 

C. Sut mae cadw fy hoff deithiau, amserlenni ac arosfannau bysiau?

A: Pan fyddwch wedi dod o hyd i daith, amserlen neu arhosfan bysiau drwy’r wefan, bydd opsiwn ‘Ychwanegu at fy ffefrynnau’ i’w weld ar y dudalen. Drwy glicio ar y botwm hwn bydd y daith, yr amserlen neu’r arhosfan bysiau’n ymddangos yn eich cyfrif.

C. Sut mae chwilio am broblemau teithio?

A.Bydd ein tudalen bwrpasol ar gyfer problemau teithio’n dangos yr holl broblemau arfaethedig yr ydym wedi cael gwybod amdanynt gan weithredwyr trafnidiaeth ac awdurdodau lleol ac a fydd yn effeithio ar drafnidiaeth gyhoeddus. Cliciwch ar y problemau teithio sy’n berthnasol i’ch taith er mwyn gweld sut y byddant yn effeithio ar eich gwasanaeth chi a pha opsiynau amgen sydd ar gael o ran trafnidiaeth (gallent olygu bod y gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio, bod arosfannau bysiau amgen yn cael eu defnyddio, bod bysiau gwennol yn cael eu defnyddio, ac ati).

Bydd unrhyw broblemau teithio sy’n berthnasol i’ch taith i’w gweld hefyd ar dudalen eich canlyniadau yn y Cynlluniwr Taith ac ar amserlen eich gwasanaeth. Cliciwch ar y botymau hynny ar gyfer problemau teithio er mwyn gweld sut y gallai’r problemau effeithio ar eich gwasanaethau.

 

C. Beth yw ‘Problemau teithio sy’n berthnasol i mi’?

A. Pan fyddwch wedi cadw hoff daith, amserlen neu arhosfan bysiau yn eich cyfrif, bydd yr adran ‘Problemau teithio sy’n berthnasol i mi’ yn dangos y problemau teithio sy'n gysylltiedig â’ch ffefrynnau’n unig.

C. Ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth am brisiau tocynnau?

A. Ar gyfer y rhan fwyaf o deithiau bws, gallwch yn awr gael gwybod beth yw’r tocyn rhataf y gallech ei brynu, yn dibynnu ar ba fath o daith y byddwch yn ei gwneud. Mae’r wybodaeth yn cynnwys pris tocyn unffordd, tocyn dwyffordd, tocyn diwrnod, tocyn wythnos, tocyn mis, tocyn gan ddefnyddio fyngherdynteithio, a mwy.

Defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i chwilio am lwybrau posibl rhwng y lleoliadau yr ydych wedi’u dewis, a chliciwch ar y botwm ‘View fares for this service’ ar waelod eich blwch canlyniadau er mwyn gweld pa docyn sy’n cynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer eich taith ar y bws. Mae’r wybodaeth ar gael hefyd ar gyfer teithiau sy’n golygu defnyddio mwy nag un bws.

Ar gyfer teithiau ar drên, byddwch yn cael eich cyfeirio o’n Cynlluniwr Taith at wefan y gweithredwr trenau er mwyn i chi allu gweld prisiau’r tocynnau sydd ar gael a phrynu eich tocynnau.

Fel arall, gallwch gysylltu â’n Canolfan Gyswllt ar 0800 464 0000.

C. Ble y gallaf gael gafael ar Gerdyn Teithio Rhatach Cymru?

A.Os ydych yn 60 oed neu’n hŷn neu os oes gennych anabledd, byddwch yn gymwys i deithio’n rhad ac am ddim yng Nghymru drwy’r cynllun Cerdyn Teithio Rhatach. Gallwch wneud cais am eich cerdyn teithio ar wefan Trafnidiaeth Cymru neu gallwch ofyn i ffrind, aelod o’r teulu neu rywun yr ydych yn ymddiried ynddo i wneud cais ar-lein ar eich rhan. Y ffordd gyflymaf o wneud cais am eich cerdyn a chael eich cerdyn yw mynd ar-lein.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi siarad â’ch cyngor lleol neu ffonio 0300 303 4240 i gael gwybod ble y mae cymorth ar gael yn lleol. Cofiwch na fyddwch yn gallu gwneud cais dros y ffôn.


C. Ble y gallaf ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru?

A. Gallwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru ar bob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru. Ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Cymru i deithio yn Lloegr, ac ni allwch ddefnyddio Cerdyn Teithio Rhatach Lloegr i deithio yng Nghymru.

Cofiwch nad oes modd i chi ddefnyddio eich Cerdyn Teithio Rhatach ar wasanaethau bws megis National Express neu Megabus.

Caiff y cynllun ei redeg gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Os hoffech wneud cais am Gerdyn Teithio Rhatach, cysylltwch â’ch awdurdod lleol a fydd yn gallu rhoi cerdyn i chi os ydych yn gymwys i’w gael.

Cliciwch ar y dolenni cyswllt isod i gael gwybodaeth am Gardiau Teithio Rhatach gan y cynghorau lleol canlynol:

Blaenau Gwent
Pen-y-bont ar Ogwr
Caerffili
Caerdydd
Sir Gaerfyrddin
Ceredigion
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Gwynedd
Ynys Môn
Merthyr Tudful  
Castell-nedd Port Talbot
Casnewydd
Sir Benfro
Powys
Rhondda Cynon Taf
Abertawe
Torfaen
Bro Morgannwg
Wrecsam

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y Cerdyn Teithio Rhatach, ewch i wefan Llywodraeth Cymru yma.

 

Trafnidiaeth Cymru 

Os ydych wedi cael tocyn teithio rhatach gan awdurdod lleol yng Nghymru, gallwch deithio yn rhad ac am ddim ar lawer o drenau Trafnidiaeth Cymru.

Gallwch deithio ar y llwybrau canlynol:

  • Wrecsam – Pont Penarlâg
  • Machynlleth – Pwllheli (Rheilffordd Arfordir y Cambrian) – mis Hydref i fis Mawrth yn unig
  • Llandudno – Blaenau Ffestiniog (Rheilffordd Dyffryn Conwy)
  • Amwythig a Llanelli/Abertawe (Rheilffordd Calon Cymru) – mis Hydref i fis Mawrth yn unig

Bydd angen i chi godi tocyn rhad ac am ddim o’r swyddfa docynnau cyn i chi deithio, neu gan gasglwr tocynnau ar y trên os na cheir swyddfa docynnau.

Bydd modd i chi hefyd gael tocynnau rhatach (gostyngiad o 1/3) ar rwydwaith Caerdydd a’r cymoedd ar ôl 9:30 o ddydd Llun i ddydd Gwener ac unrhyw adeg ar benwythnosau a gwyliau banc.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru.

 

C. Ble y gallaf gael gafael ar wybodaeth am deithio gydag anabledd

A. Mae Traveline Cymru yn ceisio darparu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosibl am deithio gydag anabledd. Ewch i’n tudalen Teithio gydag anabledd i gael rhagor o wybodaeth.

C. Sut mae cwyno am gwmni bysiau?

A. I gwyno am wasanaeth bws, dylech gysylltu’n uniongyrchol yn y lle cyntaf â gweithredwr y bws. Gallwch ddod o hyd i enw gweithredwr eich bws ar waelod amserlen y gwasanaeth. Os byddwch yn anfodlon â’r ymateb a gewch neu os na fyddwch yn clywed yn ôl gan y gweithredwr cyn pen 14 diwrnod gwaith, gallwch gyfeirio’r gŵyn at Bus Users Cymru. Gallwch anfon ebost i complaints@bususers.org neu lenwi’r ffurflen gwyno ar-lein yma.

C. Sut mae cwyno am Traveline Cymru?

A. Os oes gennych gŵyn am unrhyw un o wasanaethau Traveline Cymru, anfonwch neges ebost i feedbacktraveline@tfw.wales a byddwn yn cysylltu’n ôl â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith. Fel arall, gallwch anfon eich cwyn yn ysgrifenedig i’r cyfeiriad canlynol:

Adran Gwynion Traveline Cymru
Traveline Cymru
Blwch Post 83
Caerdydd CF11 1NA