Newyddion

Newidiadau i wasanaethau

Newidiadau’n ymwneud â gwasanaethau Express Motors / D Jones & Son

23 Rhagfyr 2017

Ni fydd dau gwmni yn y gogledd yn rhedeg gwasanaethau o fis Rhagfyr 2017 ymlaen. Mae cynghorau Gwynedd, Wrecsam a Sir Ddinbych wedi bod wrthi’n ceisio trefnu gwasanaethau i gymryd lle gwasanaethau Express Motors a D Jones & Son.

Bydd Express Motors o Ben-y-groes yn gorffen gweithredu ddydd Sul 31 Rhagfyr 2017 a rhoddodd D Jones & Son y gorau i fasnachu ddydd Sul 17 Rhagfyr 2017.

Mae rhagor o wybodaeth am weithredwyr newydd a fydd yn cael eu contractio i gymryd gwasanaethau drosodd oddi wrth Express Motors a D Jones & Son i’w gweld ar ein tudalen am broblemau teithio. Fel arall gallwch ffonio ein rhif rhadffôn, sef 0800 464 0000.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi wrth i ni ei chael.

Isod ceir amserlenni ar ffurf dogfennau pdf, ac rydym yn bwriadu eu hychwanegu at ein cynlluniwr taith cyn gynted ag sy’n bosibl.

D Jones and Son

20/12/2017

Stagecoach C56

 

Express Motors

02/01/2018

Arriva 85, 86

Arriva 82

Arriva 83

Arriva 1B

Arriva 1NS

Arriva 3

Arriva 5C, 5D

Arriva 88

Arriva 91

Arriva 1

 

Llew Jones X19

 

Lloyds 33A, 33, 533

Lloyds 35

Lloyds 38

Lloyds T2

Lloyds T3

Lloyds X28

 

Mid Wales Motorways 301

Mid Wales Motorways 302

Pob stori newyddion Rhannwch y neges hon