Blog

Beth sydd ymlaen yng Ngŵyl Undod Hijinx

Beth sydd ymlaen yng Ngŵyl Undod Hijinx

15 Mehefin 2022

Bydd Gŵyl Undod Hijinx yn dychwelyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni mewn lleoliadau ar draws Cymru. Heddiw, mae’r ŵyl yn un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a dyma’r unig ŵyl o’i math yng Nghymru. Bydd yn dychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig Covid-19, a bydd y digwyddiad a gynhelir am y 10fed tro yn well nag erioed.

Eleni, bydd yna 12 diwrnod o berfformiadau theatr, dawns, comedi, ffilm a theatr stryd yn ogystal â chynhyrchiad hybrid newydd, a fydd yn cyfuno rhai o’r gweithgareddau gorau o bob cwr o’r byd ym maes y celfyddydau a theatr, o safbwynt cynwysoldeb ac anabledd, er mwyn eu harddangos yma yng Nghymru.

Bydd yr ŵyl yn cynnwys Gŵyl Ffilmiau am y tro cyntaf erioed, a fydd yn arddangos gwaith ffilm cynhwysol diweddar o Gymru, y DU, Ewrop a thu hwnt. Bydd perfformiadau digidol ar gael i’w ffrydio ar Hijinx Mobile (a grëwyd mewn partneriaeth ag Escena Mobile a’r British Council).

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar draws 3 lleoliad yng Nghymru: Caerdydd, Bangor a Llanelli.

Mae rhai o uchafbwyntiau’r ŵyl i’w gweld isod:

 

Caerdydd | 16 – 26 Mehefin

*Lawrlwythwch Raglen Gŵyl Undod Caerdydd 2022 yma*

Bydd y perfformiadau yng Nghaerdydd wedi’u gwasgaru ar draws 5 lleoliad. Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm fydd cartref pob un o’r digwyddiadau y mae angen tocynnau ar eu cyfer, a fydd yn cynnwys perfformiadau megis ‘touch me’ gan Hijinx, y bydd tanzbar_bremen yn rhan ohono,  ‘El festin de los cuerpos’ gan Danza Mobile a mwy. I weld y rhestr lawn o berfformiadau, ewch i wefan Hijinx yma.

Bydd yr Ŵyl Ffilmiau arloesol yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Bydd yn cyflwyno 40+ o brif ffilmiau, ffilmiau byr, premières, trafodaethau panel a digwyddiadau eraill. Gallwch ddod o hyd i amserlen a thocynnau ar gyfer pob un o’r digwyddiadau ffilm yma.

Yn Porter’s Caerdydd, bydd y gwesteion yn cael cyfle i fwynhau Noson Gomedi gyntaf yr Ŵyl Undod, pan fydd Chiron Barron, Juliana Heng, Dan Mitchell, Richard Newnham a Sha Rita yn camu i’r llwyfan.

Yn yr Aes a Neuadd Dewi Sant, bydd y gwesteion yn gallu mwynhau perfformiadau Theatr Stryd rhad ac am ddim gan Hijinx, Avant Cymru a Cheryl Beer o Gymru, grwpiau rhyngwladol fel Compagnie de l’Oiseau-Mouche a mwy.

 

Bangor | 1 – 2 Gorffennaf

*Lawrlwythwch Raglen Gŵyl Undod Bangor 2022 yma*

Bydd fersiwn fach o raglen yr Ŵyl Undod yn mynd i Fangor a bydd perfformiadau i’w cael y tu mewn a’r tu allan i Pontio. Bydd yna gymysgedd o berfformiadau rhyngwladol, cynyrchiadau Theatr Hijinx a pherfformiadau gan Academi’r Gogledd a Theatr Pobl Ifanc y Gogledd.

Gallwch gael gwybod mwy am bob perfformiad sydd wedi’i drefnu ym Mangor yma.

 

Llanelli | 1 – 2 Gorffennaf

*Lawrlwythwch Raglen Gŵyl Undod Llanelli 2022  yma*

Yn yr un modd, bydd fersiwn fach o raglen yr Ŵyl Undod yn mynd i Lanelli a bydd perfformiadau i’w cael y tu mewn a’r tu allan i Ffwrnes. Bydd yna gymysgedd o berfformiadau rhyngwladol, cynyrchiadau Theatr Hijinx a pherfformiadau gan Academi’r Gorllewin ac Academi’r Canolbarth.

Gallwch gael gwybod mwy am bob perfformiad yn Llanelli yma.

 

Am gael help i deithio i’r ŵyl?

Isod fe welwch chi rai dolenni cyswllt defnyddiol i’ch helpu i ddechrau cynllunio eich taith i’r digwyddiad. Mae defnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yr ardal yn gallu bod yn ffordd wych o deithio i’r digwyddiad ac osgoi’r gofid o ddod â’ch car.

 

Bydd yna weithredu diwydiannol ar 21, 23 a 25 Mehefin. Cofiwch fynd i’n tudalen wybodaeth ‘Gweithredu Diwydiannol’ i gael trosolwg a chael y wybodaeth ddiweddaraf gan wasanaethau cyn i chi gynllunio eich taith.

 

Trafnidiaeth gyhoeddus

I wneud eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus, defnyddiwch ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cyfleus yn ogystal â gwybodaeth am y gwasanaethau sy’n gweithredu a’u hamserlenni.

Os hoffech chwilio am amserlen gwasanaeth bws, ewch i’n tudalen Amserlenni. Yma, gallwch chwilio am lwybr penodol neu am eich lleoliad er mwyn gweld amserlenni gwasanaethau’r ardal. Byddwch hefyd yn gallu dewis argraffu’r amserlen er mwyn mynd â hi gyda chi ar eich taith.

 

Cerdded a beicio

Gallwch ddefnyddio ein Cynlluniwr Taith i ddod o hyd i lwybrau cerdded a beicio hefyd er mwyn cyrraedd eich digwyddiad. Os ydych yn byw’n agos, gall cerdded fod yn ffordd wych o edmygu’r golygfeydd a mwynhau’r awyrgylch cyn y digwyddiad!

Gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth ar ein tudalen Cerdded a Beicio.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth rhif Rhadffôn. Bydd un o’n cynghorwyr cyfeillgar wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych ynglŷn â gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ac i’ch helpu i gynllunio eich taith. Ffoniwch ni’n rhad ac am ddim ar 0800 464 00 00!

Pob blog Rhannwch y neges hon