Amdanom ni

Beth yw Traveline Cymru?

Gwasanaeth gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus yw Traveline Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â gweithredwyr ac awdurdodau lleol i ddarparu gwybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus – bysiau a threnau – ar draws Cymru yn ogystal â gwybodaeth am lwybrau cerdded a beicio.

Ein diben yw bod yn ganolfan hollgynhwysol ar gyfer gwybodaeth am deithio, lle gallwch ddod o hyd i’r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am deithiau mewn un man drwy ddilyn ychydig o gamau syml.


Pa wasanaethau y mae Traveline Cymru yn eu cynnig?

 

Canolfan Gyswllt ddwyieithog

Gallwch ffonio ein Canolfan Gyswllt ddwyieithog yn rhad ac am ddim ar 0800 464 0000 os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch cynllunio teithiau.

Mae’r asiantiaid yn ein Canolfan Gyswllt ym Mhenrhyndeudraeth yn y gogledd ar gael rhwng 7am ac 8pm bob dydd, drwy’r flwyddyn. Gwasanaeth cyfyngedig sydd ar gael ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan a Dydd Calan.

 

Ein gwefan

Cynlluniwr taith

Diben ein cynlluniwr taith yw eich helpu i ddod o hyd i’r llwybrau gorau o ran trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer eich taith. Pan fyddwch wedi cwblhau’r broses chwilio, bydd yr holl opsiynau sydd ar gael o ran llwybrau a’r holl wybodaeth y bydd arnoch ei hangen i wneud y daith i’w gweld yn glir ar un dudalen, gan gynnwys:

  • Amseroedd teithio
  • Amserlenni
  • Mapiau
  • Prisiau tocynnau
  • Unrhyw broblemau teithio
Map Teithio

Mae’r Map Teithio yn disodli ein hen Chwiliwr Arosfannau Bysiau ac mae’n eich galluogi i weld yr holl arosfannau bysiau, gorsafoedd trenau, arosfannau parcio a theithio a gorsafoedd Nextbike sydd yn yr ardal yr ydych am chwilio ynddi. Yna, gallwch ddewis unrhyw un o’r eiconau teithio sydd ar y map i gael gafael ar ragor o wybodaeth.

Chwiliwr arosfannau bysiau

Bydd y cyfleuster hwn yn eich galluogi i chwilio am eich arhosfan bysiau neu’ch lleoliad er mwyn gweld yr arosfannau bysiau’n syth drwy’r map. Yna, gallwch glicio ar yr arosfannau hynny er mwyn gweld y bysiau nesaf a fydd yn teithio heibio iddynt a gweld dolenni ar gyfer eu hamserlenni.

Problemau teithio

Byddwn yn rhoi manylion unrhyw broblemau teithio neu unrhyw newidiadau i wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yr ydym yn ymwybodol ohonynt, ar ein tudalen ar gyfer problemau teithio. Byddwch yn gallu chwilio am unrhyw broblemau teithio’n ôl rhif y gwasanaeth, y gweithredwr a’r dyddiad. Felly, byddwch yn gallu gweld y wybodaeth y mae arnoch ei hangen yn gyflym ac yn hawdd.

Fy nghyfrif

Os byddwch yn cofrestru i agor cyfrif gyda ni, byddwch yn gallu cadw eich hoff deithiau, amserlenni neu arosfannau bysiau, sy’n golygu y bydd y wybodaeth yr ydych yn ei defnyddio’n rheolaidd ar gael i chi’n hawdd. Gallwch hefyd deilwra’r problemau teithio er mwyn dangos y problemau sy’n berthnasol i’ch hoff wasanaethau’n unig, sy’n golygu y bydd eich profiad gyda ni wedi’i bersonoli er mwyn bod yn addas i chi.

 

Ap ar gyfer dyfeisiau symudol a gwasanaeth negeseuon testun

Rydym yn cynnig ap dwyieithog a rhad ac am ddim ar gyfer dyfeisiau symudol, a fydd yn eich galluogi i gynllunio eich taith a gweld amserlenni ac arosfannau bysiau wrth i chi deithio. Ar hyn o bryd, mae’r ap ar gael ar yr iPhone ac ar ddyfeisiau Android.

Rydym hefyd yn cynnig gwasanaeth negeseuon testun, sy’n gallu anfon gwybodaeth am amseroedd eich bws nesaf yn uniongyrchol i’ch ffôn symudol.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio ein gwasanaethau symudol, ewch i’n tudalen Ap ar gyfer dyfeisiau symudol a gwasanaeth negeseuon testun.

 

Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol

Gallwch gadw mewn cysylltiad â ni ar gyfryngau cymdeithasol drwy ddilyn ein cyfrif Twitter, @TravelineCymru, i gael y negeseuon diweddaraf am ddargyfeiriadau neu unrhyw achosion o oedi neu ganslo gwasanaethau, a chael aildrydariadau gan weithredwyr ac awdurdodau lleol.

Gallwch ddod o hyd i ni ar y platfformau canlynol hefyd:

Facebook