Cofrestru gyda Traveline Cymru

Gallwch deilwra eich profiad gyda ni drwy gofrestru yma i agor cyfrif personol.

Drwy gofrestru i agor cyfrif, byddwch yn gallu:

  • Cadw eich hoff deithiau, amserlenni ac arosfannau bysiau. Yna, bydd y rhain i’w gweld yn eich cyfrif er mwyn i chi gael gafael arnynt yn gyflym ac yn hawdd.
  • Gweld y problemau teithio sy’n berthnasol i’ch hoff wasanaethau. Drwy gadw eich hoff lwybrau, byddwch yn gallu gweld ‘Y problemau teithio sy’n berthnasol i mi’, a fydd yn dangos y problemau teithio sy’n gysylltiedig â’r teithiau yr ydych wedi’u cadw yn unig.
  • Addasu manylion eich taith i ateb eich anghenion. Gallwch newid eich pellter a’ch cyflymder cerdded, dewis taith yn ôl gweithredwr a llawer mwy i sicrhau bod y daith yn ateb eich gofynion penodol.

  • Isod gallwch gofrestru hefyd ar gyfer ein llythyr newyddion misol, a anfonir drwy ebost, er mwyn cael y manylion diweddaraf am ddigwyddiadau sydd ar ddod yng Nghymru, y newyddion diweddaraf am drafnidiaeth, y wybodaeth ddiweddaraf am Traveline Cymru, manylion cystadlaethau a llawer mwy!

Syniad da? Llenwch y ffurflen isod i gofrestru!

Rhaid llenwi’r meysydd sydd â * wrth eu hymyl

Pam y mae angen fy ngwybodaeth bersonol i arnoch?
Er mwyn i ni allu anfon gwybodaeth atoch am broblemau teithio sy’n effeithio ar eich hoff wasanaethau, pe baech am i ni wneud hynny. Ar ôl mewngofnodi, gallwch weld eich hoff wasanaethau a dewis sut yr hoffech gael y wybodaeth honno, h.y. drwy neges destun SMS, ebost neu’r ddau.

Ac ar gyfer eich llythyr newyddion drwy ebost?
Bydd cael eich gwybodaeth bersonol yn ein helpu i sicrhau bod eich profiad o ymwneud â Traveline Cymru yn fwy personol. Mae’n golygu y gallwn anfon negeseuon ebost atoch yr ydym yn meddwl y byddech yn hoffi eu cael, a sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol i’r hyn yr ydych wedi dewis ei gael.

Rydym yn cymryd gofal mawr wrth reoli eich gwybodaeth bersonol. Cliciwch yma i weld ein Polisi Preifatrwydd ac i gael rhagor o wybodaeth.