Astudiaeth Achos Fideo Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
Mae Rhodri Davies, Rheolwr Cynllunio Gwasanaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yn sôn am sut y mae’r Bwrdd Iechyd yn cydweithio’n agos â Traveline Cymru i ddarparu opsiynau teithio cynaliadwy i weithwyr, cleifion ac ymwelwyr ar draws pob un o safleoedd y Bwrdd Iechyd. Mae Traveline Cymru wedi bod yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i gyflwyno hyfforddiant i staff rheng flaen, darparu sioeau teithiol a digwyddiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth pobl o’r gwasanaethau teithio sydd ar gael, a chynnal archwiliadau safle i ganfod yr opsiynau y gall gweithwyr eu defnyddio er mwyn teithio i amryw safleoedd y Bwrdd Iechyd.