Astudiaeth Achos Fideo Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae Annie Lawrie, Swyddog Trafnidiaeth Ymwelwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn sôn am sut y mae’r Awdurdod yn cydweithio â Traveline Cymru i annog dulliau cynaliadwy o deithio ar gyfer twristiaid yn y Parc Cenedlaethol. Mae Awdurdod y Parc wedi datblygu llawer iawn o wybodaeth, llenyddiaeth a phecynnau hyfforddi, a gyda chymorth Traveline Cymru caiff y cyfan ei gyflwyno i ddarparwyr twristiaeth ar draws y Parc Cenedlaethol er mwyn annog ymwelwyr â’r ardal i ddefnyddio dulliau mwy cynaliadwy o deithio yn ystod eu hymweliadau.