Gorsaf Fysiau Caerdydd ar gau

Cardiff Bus Station closure

Gorsaf Fysiau Caerdydd ar gau o 1 Awst 2015 ymlaen

Ar ôl i’r bws olaf ymadael ddydd Sadwrn 1 Awst 2015, bydd Gorsaf Fysiau Caerdydd yn cau er mwyn i waith ddechrau ar ddatblygiad newydd y Sgwâr Canolog. Disgwylir i’r gwaith ar orsaf fysiau newydd sbon Caerdydd ddechrau ym mis Ebrill 2017 a disgwylir i’r orsaf newydd agor yn ystod haf 2018.

Tra bydd yr orsaf fysiau ar gau, bydd y bysiau sydd ar hyn o bryd yn defnyddio’r orsaf a’r arosfannau ar ochr ddeheuol Stryd Wood yn defnyddio arosfannau gerllaw. Bydd y trefniadau hyn yn parhau nes y bydd yr orsaf fysiau newydd yn agor, a disgwylir i hynny ddigwydd yn ystod haf 2018.

Os oes angen help, cyngor neu wybodaeth arnoch, cysylltwch â ni drwy ffonio 0871 200 22 33 lle bydd staff ein Canolfan Gyswllt wrth law i’ch helpu. Fel arall, gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 0300 200 22 33. 

Mae gweithredwyr wedi darparu’r wybodaeth isod am yr amryw newidiadau i arosfannau bysiau ac am y gwasanaethau yr effeithir arnynt.

 

Bws Caerdydd

Bydd y bysiau sydd ar hyn o bryd yn defnyddio’r orsaf a’r arosfannau ar ochr ddeheuol Stryd Wood yn defnyddio arosfannau gerllaw.

Mae Bws Caerdydd wedi cyhoeddi taflen sy’n rhestru’r arosfannau hynny a’u lleoliad, yn ogystal â’r gwasanaethau yr effeithir arnynt a manylion ynghylch ble y gallwch ddal y bysiau hynny ar ôl i’r orsaf gau. Gallwch weld y daflen yn y fan hon.

NI fydd cau’r orsaf fysiau yn effeithio ar lwybrau gwasanaethau 1/2, baycar (gwasanaeth 6), 7, 35/36, 38/38A, 44/44B/45/45B, 46, 49/50, 51, 52, 53, 57/58, 86 na X59.

Newidiadau i amserlenni:

Bydd rhai o amserlenni Bws Caerdydd yn newid o ddydd Sul 2 Awst ymlaen. Cliciwch ar y rhifau isod i weld copi PDF o’r amserlenni newydd:

9A212324/24A25276162/636695A*

Bydd amseroedd gwasanaethau 11, 17/18, 28/28A/28B, 30, 92/93/94 a X91 ar gyfer canol y ddinas yn newid er mwyn cyd-fynd â’r arosfannau newydd lle bydd y gwasanaethau’n dechrau/gorffen. 

*Bydd Gwasanaeth Parcio a Theithio’r Gorllewin (Stadiwm Lecwydd) yn cael ei gynnwys yn amserlen gwasanaeth 95A, a bydd yn dal i redeg o ddydd Llun i ddydd Gwener ond gan ddechrau’n gynt, am 08:44. 

Gallwch weld yr amserlenni newydd drwy ddilyn y dolenni cyswllt isod:

Amserlenni Caerdydd
Amserlenni Bro Morgannwg

 

Cyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd hefyd wedi cyhoeddi map sy’n dangos y newidiadau i arosfannau bysiau, eu lleoliad a manylion ynghylch ble y gallwch gael gafael ar eich gwasanaethau bws. Mae’r manylion llawn a fersiwn fwy o faint o’r map i’w gweld drwy ddilyn y ddolen gyswllt hon.

 

First Cymru

Bydd yr arosfannau amgen canlynol yn cael eu defnyddio o ddydd Sul 2 Awst ymlaen:

Gwasanaeth X2 i’r Bont-faen, Pen-y-bont ar Ogwr a Phorth-cawl.

Bydd y gwasanaethau’n ymadael o arhosfan JB yn Wood Street.

Gwasanaeth Greyhound X10 i Ganolfan Manwerthu McArthurGlen Pen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe.

Bydd y gwasanaethau’n ymadael o Heol y Tollty.

 

National Express

Mae pob bws sy’n gadael neu’n cyrraedd Caerdydd yn gadael neu’n cyrraedd Gerddi Sophia. Mae’n cymryd tua 15-20 munud i gerdded oddi yno i orsaf drenau Caerdydd Canolog. Mae maes parcio a gaiff ei redeg gan y Cyngor i’w gael yng Ngerddi Sophia (bydd y ddolen gyswllt yn mynd â chi i wefan y Cyngor lle gallwch weld y prisiau). Mae’r maes parcio ar agor 24 awr y dydd ac mae’n costio £10.30 i barcio yno am 24 awr.

 

Newport Bus

Tra bydd yr orsaf fysiau ar gau, bydd gwasanaethau X30 a 30 Newport Bus yn ymadael o ardaloedd eraill yn y ddinas.

  • Bydd gwasanaeth X30 yn gorffen wrth arhosfan GG yn Heol y Brodyr Llwydion, Caerdydd ac yn ymadael o’r arhosfan hwnnw.
  • Bydd gwasanaeth 30 yn ymadael o arhosfan JL yn Heol y Tollty, Caerdydd.

Bydd gwasanaeth 30 yn mynd drwy Rodfa’r Orsaf, Stryd Guildford, Ffordd Churchill a Theras Bute i gyrraedd Heol y Tollty. Ar ôl ymadael â Heol y Tollty, bydd y gwasanaeth yn mynd drwy ben isaf Heol Eglwys Fair, Stryd Wood ac yna’n ailymuno â’i lwybr presennol yn Heol y Porth.

Dylech nodi, ar ôl 20:00 (8pm) nos Wener a nos Sadwrn, y bydd y gwasanaeth yn mynd o Heol y Tollty a thrwy Stryd y Felin, Stryd y Gamlas, Teras Bute, Ffordd Churchill a Rhodfa’r Orsaf i Heol Casnewydd, Caerdydd.

I gael rhagor o wybodaeth, gallwch ffonio Canolfan Deithio Newport Bus ar 01633 263 600

 

Stagecoach

Bydd y gwasanaethau a oedd yn arfer dechrau yn yr orsaf fysiau’n ymadael o ben isaf Heol Eglwys Fair (arhosfan JP).

Ar ôl 20:00 nos Wener a nos Sadwrn, oherwydd bod pen isaf Heol Eglwys Fair ar gau, bydd y bysiau hyn yn dechrau o’r Royal Hotel yn Heol y Porth (arhosfan KH).

Ni fydd y bysiau’n aros wrth unrhyw arosfannau eraill yn Heol y Porth wrth iddynt adael Caerdydd.

Bydd y bysiau sy’n cyrraedd Caerdydd, a oedd yn arfer aros yn yr orsaf fysiau, yn gorffen yn Heol y Porth (arhosfan KJ).

Ni fydd gwasanaeth 122 yn newid, a bydd yn gorffen yn Heol y Brodyr Llwydion.

Bydd y trefniadau hyn ar waith o ddydd Sul 2 Awst 2015 ymlaen.

 

Traws Cymru

Bydd y trefniadau canlynol o ran arosfannau bysiau ar waith ar gyfer gwasanaethau T4 a T9:

Bydd T4 yn aros ym mhen isaf Heol Eglwys Fair (JP).

Bydd T9 yn aros yn Heol y Tollty (JL) a Heol Penarth (JM) (y tu ôl i Orsaf Caerdydd Canolog) yng nghanol dinas Caerdydd.