Ap ar gyfer dyfeisiau symudol a gwasanaeth negeseuon testun

Ap ar gyfer dyfeisiau symudol a gwasanaeth negeseuon testun

Ap Traveline Cymru

Mae gennym ap dwyieithog ar gyfer dyfeisiau symudol, sydd ar gael i’w lawrlwytho’n rhad ac am ddim. Bydd yr ap yn eich galluogi i:

  • Gynllunio eich taith
  • Dod o hyd i arosfannau bysiau drwy fap y chwiliwr arosfannau bysiau
  • Chwilio am amserlenni
  • Gweld problemau teithio
  • Cadw eich hoff arosfannau
  • Gweld ein ffrwd Twitter

Ar hyn o bryd, mae’r ap ar gael ar yr iPhone ac ar ddyfeisiau Android.

I lawrlwytho’r ap ar gyfer yr iPhone, ewch i Siop Apiau iTunes.
I lawrlwytho’r ap ar gyfer dyfeisiau Android, ewch i Google Play.

Gwasanaeth negeseuon testun Traveline

Mae gennym wasanaeth negeseuon testun hefyd, sy’n gallu anfon amseroedd eich bws nesaf yn uniongyrchol i’ch ffôn drwy neges destun. Dyma sut mae cael neges o’r fath:

Cam 1:
Dewch o hyd i god yr arhosfan bysiau yr ydych yn teithio ohono. Mae gan bob arhosfan bysiau ei god 7 llythyren unigryw ei hun sydd i’w weld ar yr arhosfan.

Cam 2:
Anfonwch god yr arhosfan bysiau mewn neges destun i rif Traveline ar gyfer negeseuon testun, sef 84268.*
Os ydych am gael ateb yn Gymraeg, rhowch fwlch ar ôl cod yr arhosfan bysiau ac yna’r llythyren C. I gael negeseuon yn Saesneg unwaith eto, rhowch fwlch ar ôl y cod ac yna’r llythyren E.

Cam 3:
Yna, cyn pen 30 eiliad, byddwch yn cael ateb rhad ac am ddim ar ffurf neges destun sy’n dangos:

  • Amseroedd yr un, y ddau neu’r tri bws nesaf a ddylai gyrraedd yr arhosfan hwnnw
  • Rhif gwasanaeth pob bws
  • Pen y daith ar gyfer pob bws

* Nid yw 84268 yn rhif cyffredin. Gallai gostio mwy na neges destun arferol ac efallai na fydd yn rhan o unrhyw fwndeli tariff. Gofynnwch i’ch darparwr ffôn symudol.
* Efallai y bydd eich darparwr ffôn symudol yn codi tâl arnoch am anfon eich neges destun. Y gost fel rheol yw £0.10 am bob neges a anfonir. Ni fydd yn rhaid i chi dalu am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau dan sylw yng Nghymru. Bydd yn rhaid i chi dalu £0.25 am yr ateb os yw’r arosfannau bysiau y tu allan i Gymru.


Cyfleuster NextBuses Traveline

Gallwch hefyd ddefnyddio NextBuses, sef gwefan gan Traveline ar gyfer dyfeisiau symudol, i ddod o hyd i amseroedd bysiau ar gyfer eich arhosfan.

Cam 1:

Ewch i http://www.nextbuses.mobi/ ym mhorwr gwe eich dyfais symudol (neu os hoffech gael nod tudalen ar gyfer y gwasanaeth hwn, anfonwch y gair ‘traveline’ mewn neges destun i 84268).

 

Cam 2:
Yna, gallwch ddod o hyd i’ch arhosfan bysiau mewn tair ffordd:

  • Teipio enw’r stryd, enw’r arhosfan neu’r cod post llawn, a phwyso’r botwm ‘search’. Gallwch wella’r broses chwilio drwy nodi’r dref neu’r ardal.
  • Clicio ar arhosfan yr ydych wedi’i ddewis yn ddiweddar (os ydych wedi defnyddio’r wefan o’r blaen).
  • Edrych ar arosfannau cyfagos (dim ond os oes gennych fersiwn sy’n adnabod lleoliadau).

Cam 3:
Dewiswch enw arhosfan o’r canlyniadau, a bydd yr ychydig fysiau nesaf a fydd yn gadael yr arhosfan hwnnw’n ymddangos.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim, ar wahân i unrhyw gostau data arferol sy’n berthnasol i’ch dyfais symudol (cysylltwch â’ch gweithredwr i gael rhagor o fanylion).