Polisi Preifatrwydd

Polisi Preifatrwydd

 

Pwy ydym ni

Yn Traveline Cymru rydym wedi ymrwymo i gynnal y ffydd a’r hyder sydd gan y sawl sy’n ymweld â’n gwefan ynom. Yn benodol, rydym am i chi wybod nad yw Traveline Cymru yn gwerthu rhestrau ebost, yn eu gosod ar rent nac yn eu cyfnewid â chwmnïau a busnesau eraill at ddibenion marchnata. D’yn ni ddim yn gwneud pethau felly o gwbl. Ond rhag ofn nad ydych yn ein credu, mae’r polisi preifatrwydd hwn yn darparu llawer o wybodaeth fanwl ynghylch pryd a pham y byddwn yn casglu eich gwybodaeth bersonol, sut y byddwn yn ei defnyddio, yr amodau cyfyngedig pan gawn ei datgelu i bobl eraill, a sut y byddwn yn ei chadw’n ddiogel.

Mae’r polisi preifatrwydd hwn yn egluro sut y mae Traveline Cymru yn defnyddio ac yn diogelu unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhoi pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon.

Mae Traveline Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu. Os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol a fydd yn golygu bod modd eich adnabod, pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, gallwn eich sicrhau mai dim ond yn unol â’r datganiad preifatrwydd hwn y bydd y wybodaeth honno’n cael ei defnyddio.

Gall Traveline Cymru newid y polisi hwn o bryd i’w gilydd drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Dylech ddarllen y dudalen hon o dro i dro i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau. Bydd y polisi hwn yn dod i rym ar 23 Mai 2018.

Y sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich data yw buddiant dilys a’r ffaith bod angen prosesu’r data er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am newidiadau/rhybuddion sy’n ymwneud ag unrhyw ffefrynnau a gadwyd gennych a’ch teithiau yn y dyfodol.

 

Diogelu data

Pan fydd rhywun yn ymweld â www.traveline.cymru byddwn yn defnyddio gwasanaeth trydydd parti, sef Google Analytics, i gasglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol a manylion am batrymau ymddygiad ymwelwyr. Byddwn yn gwneud hynny er mwyn darganfod pethau megis nifer y bobl sy’n ymweld â gwahanol rannau’r wefan. Dim ond mewn modd sy’n golygu na fydd yn bosibl adnabod neb y bydd y wybodaeth honno’n cael ei phrosesu. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw ymdrech i ddarganfod pwy yw’r bobl sy’n ymweld â’r wefan, ac nid ydym yn galluogi Google i wneud hynny chwaith.  

Rydym yn defnyddio darparwr trydydd parti, sef Limegreentangerine, i ddosbarthu ein llythyr newyddion trwy ebost. Rydym yn defnyddio technolegau safonol i gasglu ystadegau ynghylch nifer y bobl sy’n agor negeseuon ebost a nifer y cliciadau, er mwyn ein helpu i fonitro a gwella ein llythyr newyddion. Gallwch dynnu eich enw oddi ar y rhestr bostio ar gyfer negeseuon ebost cyffredinol unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos drwy glicio ar y ddolen gyswllt ‘ymadael â’r rhestr bostio’ sydd ar waelod unrhyw un o’n negeseuon ebost.

Rydym hefyd yn defnyddio darparwr trydydd parti, sef Spindogs, i storio’r dewisiadau sy’n berthnasol i’ch cyfrif a’r ffefrynnau a gadwyd gennych.

Rydym yn cymryd gofal mawr wrth reoli eich gwybodaeth bersonol. Mae eich preifatrwydd yn bwysig iawn i ni, felly rydym am i chi ddeall pam yr ydym yn gofyn am bob darn o wybodaeth pan fyddwch yn cofrestru gyda ni.

Enw a chyfeiriad ebost

Rydym yn gofyn am eich enw er mwyn i ni allu eich cyfarch wrth eich enw os byddwch yn dewis cofrestru i gael ein negeseuon ebost. Rydym hefyd yn defnyddio’r wybodaeth hon i gadarnhau eich bod yn berson go iawn (h.y. nad ydych yn robot) ac at ddibenion diogelwch. Dim ond chi fydd yn gallu cael mynediad i’ch cyfrif, ac ni fydd neb arall yn gweld eich enw na’ch cyfeiriad ebost.

Cyfrinair

Mae eich cyfrinair yn helpu i gadw eich cyfrif yn ddiogel er mwyn i chi allu cael mynediad iddo. Dylech wneud yn siŵr eich bod yn dewis cyfrinair na fydd neb ond chi yn ei wybod.

Rhif ffôn

Does dim rhaid i chi roi eich rhif ffôn. Bydd cael eich rhif ffôn yn ein galluogi i anfon gwybodaeth atoch drwy neges destun am broblemau teithio sy’n effeithio ar eich hoff wasanaethau.

Lleoliad

Rydym yn gofyn am eich lleoliad er mwyn anfon gwybodaeth atoch am wasanaethau a digwyddiadau sy’n berthnasol i’ch ardal, mewn unrhyw negeseuon ebost y byddwch yn cofrestru i’w cael.

Oedran a rhyw

Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i weld sut y mae gwahanol bobl yn defnyddio Traveline Cymru, sy’n ein helpu i ddeall ein cynulleidfa er mwyn rhoi’r wybodaeth fwyaf perthnasol posibl i chi.

 

Pryd y byddwn yn casglu gwybodaeth gan ddefnyddwyr?

Pan fyddwch yn cofrestru cyfrif ar y wefan hon, pan fyddwch yn cofrestru i gael ein llythyr newyddion trwy ebost, os byddwch yn cofrestru i fod yn aelod o’n panel ar-lein.

Pa wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Dim ond y wybodaeth yr ydych yn dewis ei darparu y byddwn yn ei chasglu.

Bydd angen cyfeiriad ebost i gofrestru cyfrif a chofrestru i gael y llythyr newyddion.

Bydd angen eich enw i gofrestru cyfrif.

Does dim rhaid i chi ddarparu eich rhif ffôn symudol.

Sut y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth y byddwn yn ei chasglu?

Er mwyn anfon hysbysiadau atoch ynghylch problemau teithio sy’n effeithio ar eich hoff lwybrau. Gallwch ddewis cael y wybodaeth hon ai peidio, a gallwch ddewis cael y wybodaeth drwy neges destun, drwy ebost neu’r ddau.

Er mwyn anfon negeseuon ebost atoch, ond dim ond os ydych wedi cofrestru i gael y llythyr newyddion.

A all defnyddwyr gywiro, golygu neu ddileu eu gwybodaeth?

Gallwch ddefnyddio eich negeseuon ebost i dynnu eich enw oddi ar restr bostio ein llythyr newyddion. Pan fyddwch wedi gwneud hynny, ni fyddwn yn parhau i anfon negeseuon i’r cyfeiriad ebost hwnnw.

Pan fyddwch wedi cofrestru cyfrif, gallwch olygu’r wybodaeth am eich cyfrif dan y tab ‘Cyfrif’ pan fyddwch wedi mewngofnodi.

Gallwch hefyd ddewis yr opsiwn sy’n gadael i chi newid eich cyfrinair presennol os ydych wedi ei anghofio. Os byddwch yn dymuno dileu eich cyfrif, anfonwch ebost i feedbacktraveline@tfw.wales a byddwn yn eich tynnu oddi ar ein system.

 

Dolenni cyswllt â gwefannau eraill

Mae’n bosibl y bydd ein gwefan yn cynnwys dolenni cyswllt a fydd yn eich galluogi i ymweld yn hawdd â gwefannau eraill a allai fod o ddiddordeb i chi. Fodd bynnag, pan fyddwch wedi defnyddio’r dolenni cyswllt hynny i adael ein gwefan, dylech nodi na fydd gennym unrhyw reolaeth dros y wefan arall honno. Felly, ni allwn fod yn gyfrifol am ddiogelu unrhyw wybodaeth nac am breifatrwydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei darparu wrth ymweld â gwefannau o’r fath, ac ni chaiff gwefannau o’r fath eu llywodraethu gan y datganiad preifatrwydd hwn. Dylech fod yn ofalus a darllen y datganiad preifatrwydd sy’n berthnasol i’r wefan dan sylw.

Cwcis ar y wefan

Yn Traveline Cymru rydym yn defnyddio cwcis i wella perfformiad a chyflymder ein gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen ein Polisi Cwcis.

 

Am ba hyd y caiff fy nata ei storio?

Bydd y manylion y byddwch yn eu darparu i greu cyfrif ar ein gwefan neu gofrestru i gael ein llythyr newyddion yn cael eu storio nes y byddwch yn penderfynu tynnu eich enw oddi ar ein rhestr bostio ar gyfer negeseuon ebost neu’n penderfynu dileu eich cyfrif.

Pan fyddwch yn anfon adborth atom drwy feedbacktraveline@tfw.wales, caiff eich enw a’ch cyfeiriad ebost eu dileu o’n system cyn gynted ag y bydd y mater y gwnaethoch ddarparu adborth yn ei gylch wedi’i ddatrys.

 

Sut y gallaf gwyno?

Os hoffech drafod ein polisi preifatrwydd, ebostiwch ni yn feedbacktraveline@tfw.wales. Os ydych yn credu eich bod wedi derbyn negeseuon ebost na ofynnwyd amdanynt oddi wrth ein sefydliad, anfonwch eich cwyn atom ynghyd â chopi o’r ebost na ofynnwyd amdano ac fe wnawn ni ein gorau glas i sicrhau na fydd hynny’n digwydd eto.

Ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth yn awtomatig am ddefnyddwyr y wefan hon. Byddwn yn casglu gwybodaeth am ddefnyddwyr sy’n dewis cyfathrebu’n wirfoddol â ni drwy ebost, drwy ein tudalennau ar gyfer cysylltu â ni neu drwy ein ffurflen ymholiadau. Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth gyfanredol gyffredinol am y defnydd a wneir o’r wefan, at ddibenion ystadegol.

Yn dilyn cael cais ysgrifenedig, byddwn yn darparu’r holl wybodaeth a gedwir am ddefnyddiwr penodol; fodd bynnag, bydd angen i’r sawl dan sylw fodloni prawf adnabod cyn y byddwn yn darparu’r wybodaeth honno.

Os byddwch yn darparu gwybodaeth i ni drwy feedbacktraveline@tfw.wales, yr unig ymateb a gewch fydd ymateb i’ch rhesymau dros gysylltu â ni; ni fyddwn yn cysylltu â chi am unrhyw reswm arall. Fodd bynnag, os byddwn o’r farn bod gennym gynnig neu wasanaeth newydd sy’n berthnasol i’ch ymholiad penodol, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi eto yn y dyfodol. Os nad ydych am i ni gysylltu â chi yn y modd hwn ac os hoffech dynnu eich manylion o’n cronfa ddata, rhowch wybod i ni drwy anfon ebost byr atom. Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth â thrydydd parti oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Rydym yn cadw’r hawl i newid geiriad y polisi hwn ar unrhyw adeg. Os byddwn yn teimlo ei bod yn briodol newid y polisi, byddwn yn hysbysu defnyddwyr y wefan drwy gyhoeddi’r geiriad newydd ar y dudalen hon ar y we.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 21/05/2021