Cau: Heol Llanwynno dros dro o'i chyffordd â Theras y Waun, tua'r de orllewin am 180 metr.
Mae angen cau'r rhan yma o'r ffordd fel bod modd cynnal gwaith arni neu yn ei hymyl.
Mae disgwyl bydd y ffordd ar gau o 26 Hydref 2018 tan 5 Tachwedd 2018 neu hyd nes bydd y gwaith wedi'i gwblhau.
Bydd mynediad ar gyfer cerddwyr ond fydd DIM mynediad ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.
Mae llwybr arall i gerbydau fel a ganlyn:-
O ochr ddeheuol y rhan o'r ffordd sydd ar gau, ewch drwy Ystad Ddiwydiannol Ynys-hir, Ffordd Liniaru'r Porth, Heol Llanwynno, Heol Ynys-hir, Heol yr Orsaf, Standard View a Theras y Waun at ochr ogleddol y rhan o'r ffordd sydd ar gau.
Ar gyfer cerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfeiriadau uchod yn y drefn wrthdro.