Problemau teithio

Bydd Heol Casnewydd ar gau bob nos o nos Lun 22 Hydref i nos Wener 26 Hydref rhwng 22:00 a 05:00 wrth y gylchfan ar waelod Rumney Hill / dan drosffordd Southern Way er mwyn rhoi wyneb newydd ar y ffordd.

Mae’r ffaith y bydd y ffordd ar gau’n golygu y bydd bysiau gwasanaethau rhif 30, 44, 45, 49 a 50 yn cael eu dargyfeirio fel a ganlyn ar ôl 22:00, gan gynnwys bysiau nos llwybr 44 nos Wener/bore dydd Sadwrn:

 

Gwasanaeth rhif 30

Bydd bws 22:00 o Heol y Tollty i Gasnewydd yn dilyn y llwybr arferol hyd at arhosfan bysiau Ipswich Road, yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A48 Eastern Avenue i gylchfan Cypress Drive/Heol Casnewydd, ac yna’n ailymuno â’r llwybr arferol wrth ymyl Canolfan Arddio Wyevale. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd o Castle Avenue i Wern Fawr Lane yn cael eu gwasanaethu.

Bydd bws 22:55 o Orsaf Fysiau Casnewydd i Gaerdydd yn dilyn y llwybr arferol i Ganolfan Arddio Wyevale, yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd yr A48 Eastern Avenue i Rover Way/Heol Casnewydd, ac yna’n ailymuno â’r llwybr arferol wrth ymyl City Link. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd o Wern Fawr Lane i Colchester Avenue yn cael eu gwasanaethu.
 

Gwasanaethau rhif 44 a rhif 45

Bydd bysiau o ganol Caerdydd i Laneirwg yn dilyn y llwybr arferol hyd at arhosfan bysiau Ipswich Road, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd yr A48 Eastern Avenue i gylchfan Cypress Drive/Heol Casnewydd, yna’n dilyn Heol Casnewydd a Wentloog Road, ac yna’n ailymuno â’r llwybr arferol yn Wentloog Road. Yn anffodus, nid fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd o Castle Avenue i’r Carpenters Arms yn cael eu gwasanaethu. At hynny, ni fydd gwasanaeth rhif 44 yn gwasanaethu unrhyw un o’r arosfannau bysiau ar hyd New Road.

Bydd bysiau i gyfeiriad canol Caerdydd yn dilyn y llwybr arferol ar hyd Greenway Road, ac yna bydd gwasanaethau rhif 44 a rhif 45 yn mynd ar hyd Wentloog Road, Heol Casnewydd, yr A48 Eastern Avenue, Southern Way a Rover Way hyd at City Link. Mae hynny’n golygu na fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd o’r Carpenters Arms i Colchester Avenue yn cael eu gwasanaethu.


Gwasanaethau rhif 49 a rhif 50

Bydd bysiau o ganol Caerdydd i Lanrhymni yn dilyn y llwybr arferol hyd at arhosfan bysiau Ipswich Road, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd yr A48 Eastern Avenue i gylchfan Cypress Drive/Heol Casnewydd, yna’n dilyn Heol Casnewydd hyd at Ganolfan Hamdden y Dwyrain ac yna’n ailymuno â’r llwybr arferol yn Llanrumney Avenue. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd o Castle Avenue i’r Carpenters Arms yn cael eu gwasanaethu.

Bydd bysiau i gyfeiriad canol Caerdydd yn dilyn y llwybr arferol hyd at Ganolfan Hamdden y Dwyrain, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Casnewydd i gylchfan Cypress Drive ac ar hyd yr A48 Eastern Avenue, Southern Way a Rover Way hyd at City Link. Yn anffodus, nid fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd o’r Carpenters Arms i Colchester Avenue yn cael eu gwasanaethu.
 
At hynny, bydd y gylchfan ar waelod Rumney Hill / dan drosffordd Southern Way ar gau i draffig sy’n teithio o ganol Caerdydd i gyfeiriad Llaneirwg/Llanrhymni, rhwng 19:39 a 22:00 bob nos. Bydd bysiau’n dilyn eu llwybr arferol, ond rhwng arhosfan bysiau Ipswich Road a gwaelod Rumney Hill byddant yn cael eu dargyfeirio ar hyd yr A4232 Southern Way i gylchfan Llanedern, yn dychwelyd ar hyd Southern Way i Rumney Hill ac yn ailymuno â’u llwybr arferol. Bydd y bysiau’n dilyn eu hamserlen arferol ond mae’n bosibl y bydd yna oedi oherwydd y gwaith a wneir ar y ffordd.

Information Source: https://www.cardiffbus.com/newport-road-closure 

Yn ôl