Mae’r heddlu o’r farn ei bod yn angenrheidiol cyflwyno’r trefniadau ychwanegol canlynol ar gyfer cau ffyrdd yn ardal Stryd y Gwynt, er mwyn diogelu’r cyhoedd ac atal troseddau ac anhrefn oherwydd dathliadau Nadolig 2018. Disgwylir y bydd llawer o bobl yn mynychu safleoedd trwyddedig yn gynnar yn yr ardal dan sylw.
Felly, bydd gwasanaethau First Cymru yn cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Christina ar ôl yr amseroedd a nodir.
Caiff cwsmeriaid eu cynghori i ddefnyddio Gorsaf Fysiau Dinas Abertawe os ydynt am ymuno â gwasanaethau ar ôl yr amseroedd hyn.
o 1400 ddydd Gwener 14 Rhagfyr 2018
o 1400 ddydd Sadwrn 15 Rhagfyr 2018
o 1800 ddydd Mawrth 18 Rhagfyr 2018
o 1400 ddydd Mercher 19 Rhagfyr 2018
o 1400 ddydd Iau 20 Rhagfyr 2018
o 1400 ddydd Gwener 21 Rhagfyr 2018
o 1400 ddydd Sadwrn 22 Rhagfyr 2018
o 1400 ddydd Llun 24 Rhagfyr 2018
o 1100 ddydd Mercher 26 Rhagfyr 2018
o 1800 ddydd Llun 31 Rhagfyr 2018