Bydd yn rhaid cau Lisvane Road ar ddau benwythnos, rhwng Chartwell Drive a Church Road, er mwyn cwblhau’r gwaith o roi wyneb newydd ar y ffordd gerbydau. Bydd hynny’n cynnwys gosod wyneb newydd ar y ffordd, gosod wyneb uwch a phaentio llinellau gwyn. Bydd y ffordd ar gau ar y dyddiadau canlynol:
Penwythnos 1: 30 Mawrth o 7am ymlaen – 31 Mawrth tan 7pm
Penwythnos 2: 6 Ebrill o 7am ymlaen – 7 Ebrill tan 7pm
Bws Caerdydd
Bydd Lisvane Road ar gau rhwng y gyffordd â Church Road a’r gyffordd â Chartwell Drive, o 07:00 ddydd Sadwrn 30 Mawrth tan 19:00 ddydd Sul 31 Mawrth. Bydd gwasanaeth 86 yn dilyn y llwybr arferol i gyffordd Mill Road / Heol y Delyn, ac yn hytrach na throi i’r chwith i mewn i Heol y Delyn bydd yna’n troi i’r dde ac yn parhau ar hyd Mill Road i Lisvane Road yng Ngorsaf Llanisien lle bydd yn ailymuno â’r llwybr arferol.
Stagecoach
Dydd Sadwrn 6 Ebrill:
Bydd gwasanaeth 86 yn teithio ar hyd y llwybr arferol i gyffordd Mill Road / Heol y Delyn, ac yna’n troi i’r dde ac yn parhau ar hyd Mill Road i Lisvane Road yng Ngorsaf Llanisien lle bydd yn parhau ar hyd y llwybr arferol yn ôl i ganol y ddinas.
Ni fydd yr arosfannau bysiau canlynol yn cael eu gwasanaethu:
The Woodlands
Rowan Way
Swyddfa Bost Llys-faen
Senotaff Llys-faen
Chartwell
Woodside