Problemau teithio

Achosodd glaw trwm lifogydd difrifol mewn sawl lleoliad ar hyd rheilffordd Dyffryn Conwy ddydd Sadwrn 16 Mawrth. 

O ganlyniad, mae’r rheilffordd rhwng Cyffordd Llandudno a Blaenau Ffestiniog ar gau i’r ddau gyfeiriad. Bydd bysiau’n rhedeg yn lle pob trên, a gellir gweld yr amserlen yma.

Nid oes unrhyw amcangyfrif hyd yma ynghylch pryd y bydd modd cwblhau’r gwaith atgyweirio, oherwydd yr holl waith sy’n ofynnol. Rhagwelir y bydd y rheilffordd yn parhau ar gau tan o leiaf mis Gorffennaf 2019.

Ewch i wefan Trafnidiaeth Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Yn ôl