Problemau teithio

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar gyfer ‘Dydd y Farn 2019’ ar 27/04/2019 rhwng 13:00 a 20:00:

  • Ffordd y Brenin o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Heol y Dug
  • Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Heol y Porth
  • Stryd Tudor o’r gyffordd â Clare Road i’r gyffordd â Stryd Wood (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr ar hyd Fitzhammon Embankment)
  • Plantagenet Street a Beauchamp Street o’r cyffyrdd â Despenser Place i’r cyffyrdd â Stryd Tudor (caniateir mynediad i breswylwyr a masnachwyr)
  • Heol Saunders o’r gyffordd â Heol Eglwys Fair
  • Heol y Tollty ar ei hyd (caniateir mynediad i feysydd parcio preifat)
  • Heol Penarth o’r gyffordd â Heol Saunders i’r fynedfa sy’n arwain at gefn yr Orsaf Ganolog.

Fodd bynnag, bydd Heol Scott a Heol y Parc yn cael eu cau’n gynnar yn y dydd (am 7am) oherwydd yr angen i baratoi Gât 5 a diogelu cefnogwyr a fydd yn ciwio.

Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ar eu hyd: Heol y Dug, Heol y Castell, Y Stryd Fawr, Heol Eglwys Fair, Stryd Caroline, Stryd Wood, y Sgwâr Canolog, Heol y Porth, Stryd y Cei, Plas y Neuadd, Y Gwter, Heol y Parc, Stryd Havelock a Heol Scott.

Ychwanegiadau: Nodwch y bydd Carten100 yn digwydd hefyd yn yr ardal a reolir lle bydd ffyrdd yn cael eu cau. Y Ganolfan Ddinesig: Caiff mynediad i ran o’r Ganolfan Ddinesig ei reoli drwy gydol y dydd, a chaniateir mynediad yn unig ar gyfer parcio at ddiben y rygbi, rhywfaint o barcio i gymudwyr, llwytho a chael mynediad i feysydd parcio preifat. Mae’r ffyrdd yr effeithir arnynt yn cynnwys: Rhodfa’r Brenin Edward VII, Rhodfa’r Amgueddfa a Heol Neuadd y Ddinas.

 

Stagecoach

Bydd pob un o fysiau Stagecoach yn cychwyn ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion drwy’r dydd.

Bydd bysiau 25 a 132 yn cychwyn/gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion.

NI fydd bysiau 122 a 124 ar ôl 12:00 canol dydd yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan ond byddant yn mynd ar hyd Heol y Gogledd wrth deithio’n ôl ac ymlaen i Heol y Brodyr Llwydion.

Yn ôl