Bydd ffyrdd yn cael eu cau yn eu tro drwy gydol y dydd ar 5/5/2019 er mwyn gallu cynnal Ras 5 Cilomedr yr Eglwys Newydd. Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio a disgwylir traffig trwm yn yr ardal a’r cyffiniau. Cofiwch neilltuo digon o amser ar gyfer eich taith.
Dyma lwybr y ras: Merthyr Road, Penlline Road, Kelston Road, Heol Don, Station Road, Gabalfa Avenue, Gabalfa Road, College Road, Merthyr Road, Bishops Road, Bishops Place a Church Road.
Bws Caerdydd
Dargyfeiriadau o 15:00 tan 18:30; ac o 20:30 tan amser y bws olaf

- Bydd Merthyr Road ar gau rhwng Bishops Road ac Old Church Road.
- Bydd gwasanaethau 21/23, 24 a 25 yn cael eu dargyfeirio rhwng Cyfnewidfa Gabalfa a Llyfrgell yr Eglwys Newydd i’r ddau gyfeiriad ar hyd Manor Way, Northern Avenue, Ty'n-y-Parc Road ac Old Church Road. Ni fydd yr arosfannau bysiau rhwng The Philog a Llyfrgell yr Eglwys Newydd yn cael eu gwasanaethu. Felly, dylech ddefnyddio’r arosfannau sydd ar hyd llwybr y dargyfeiriad, gan gynnwys yr arhosfan dros dro ar Old Church Road.
Dargyfeiriadau o 18:30 tan 20:30

Bydd Merthyr Road rhwng College Road a Penlline Road ar gau o 18:30 tan 20:30. Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn cael eu dargyfeirio rhwng Cyfnewidfa Gabalfa a Pantmawr Road i’r ddau gyfeiriad ar hyd Manor Way a Northern Avenue. Ni fydd yr arosfannau bysiau rhwng The Philog a Heol Pant y Rhyn (Pantmawr Road) yn cael eu gwasanaethu. Felly, dylech ddefnyddio’r arosfannau sydd ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.

Bydd gwasanaeth 35 yn cael ei ddargyfeirio rhwng Cyfnewidfa Gabalfa a Gabalfa Avenue/Cathedral View ar hyd Rhodfa’r Gorllewin, Excelsior Road, Aberporth Road a Western Drive. Bydd bysiau’n mynd o amgylch cylchfan Gabalfa Avenue/Cathedral View ac yn dychwelyd i’w llwybr arferol ar hyd Gabalfa Avenue. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar Celtic Road, The Philog, Comin yr Eglwys Newydd, College Road a Gabalfa Avenue (hyd at Cathedral View) yn cael eu gwasanaethu.
Stagecoach
Bydd gwasanaethau Stagecoach yn cael eu dargyfeirio ar ôl 14:30 ac ni fyddant yn gallu gwasanaethu canol pentref yr Eglwys Newydd.
Bydd gwasanaethau 26 a 132 yn gweithredu rhwng tafarn yr Hollybush Inn ar hyd Pantmawr Road a Northern Avenue/Manor Way i’r ddau gyfeiriad.
Bydd y bysiau’n aros wrth bob un o’r arosfannau sydd ar hyd Northern Avenue a Manor Way.