Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Heath Park Way yn Ysbyty’r Waun ar gau rhwng 06:00 ddydd Gwener 3 Mai a phrynhawn dydd Mawrth 7 Mai oherwydd bod angen symud craen tyrog. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar safle’r ysbyty ac o’i amgylch. Gallwch weld isod ble y bydd angen i chi ddal eich bws ar safle’r ysbyty tra bydd y ffyrdd ar gau:

 

Llwybr 1 – Tŷ Maeth (yr ochr ogleddol)

Llwybr 2 – Tŷ Maeth (yr ochr ddeheuol)

Llwybrau 8 a 9 – Tŷ Maeth (yr ochr ddeheuol)

  • Bydd gwasanaethau 8 a 9 yn dilyn eu llwybr arferol i Ysgol Gladstone, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Allensbank Road i’r ysbyty. Ni fyddant yn gwasanaethu arosfannau bysiau O GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS ar hyd Whitchurch Road (o westy’r Heath Hotel), Cyfnewidfa Gabalfa, Cross Inn, Rhydhelig Avenue, Heath Park Way a Central Way.
  • Dim ond wrth arhosfan bysiau Tŷ Maeth (yr ochr ddeheuol) y bydd bysiau’n aros ar safle’r ysbyty. Yna, byddant yn teithio ar hyd ffordd ymadael yr A48 i Gyfnewidfa Gabalfa ac yn dychwelyd i’w llwybr arferol ar hyd Whitchurch Road. Ni fydd bysiau’n gwasanaethu arosfannau bysiau I GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS yn y Gateway, Academic Avenue, Rhydhelig Avenue a Cross Inn.

Llwybr 15 – y tu allan i’r prif faes parcio aml-lawr

Llwybr 51 – Tŷ Maeth (yr ochr ogleddol)

Llwybr 53 – Tŷ Maeth (yr ochr ddeheuol)

Llwybr 64 – Tŷ Maeth (yr ochr ddeheuol)

Llwybrau 65/65A – Tŷ Maeth (yr ochr ddeheuol) neu y tu allan i’r prif faes parcio aml-lawr

Llwybr 95 – Tŷ Maeth (yr ochr ddeheuol) neu y tu allan i’r prif faes parcio aml-lawr

 

Ewch i wefan Bws Caerdydd i gael rhagor o fanylion.

Yn ôl