Problemau teithio

Effaith y Gorchymyn fydd cau Heol Clydach dros dro, o'i chyffordd â Glanffrwd Terrace i gyfeiriad y de am tua 400 metr.

Llwybr Amgen – o ochr ogleddol y ffordd sydd wedi'i chau, ewch ar hyd Glanffrwd Terrace, Tai Newydd, Stryd yr Eglwys, Clive Terrace, Penygraig Terrace a'r B4273 (Windsor Place)

Ar gyfer cerbydau sy'n teithio i'r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfarwyddiadau uchod am yn ôl.

Mae angen y cyfyngiad fel bydd modd cynnal y gwaith ar y ffordd neu yn ei hymyl.

Mae disgwyl i'r Gorchymyn fod mewn grym o 7.00am ar 30 Mai 2019 hyd at 5.00pm ar 31 Mai 2019, neu hyd nes y bydd y gwaith wedi'i gwblhau.

Dylech nodi y gallai hynny amharu rhywfaint ar wasanaethau bws lleol.

Yn ôl