Problemau teithio

Effaith y Gorchymyn fydd cau'r rhannau canlynol o ffordd dros dro yn ystod y dyddiadau a'r amserau penodedig neu hyd nes bydd y gwaith wedi cael ei gwblhau.

Cam 1

  • Cylchfan Nantgarw hyd at Gyffordd Nantgarw
  • Cyffordd Nantgarw hyd at Ffordd Slip yr A470 tua'r gogledd

Llwybr arall - O ochr orllewinol y ffordd sydd wedi'i chau, ewch ymlaen ar hyd Stryd Rhydychen (A4054), Main Avenue (A4054) a'r A470.

Rydyn ni'n disgwyl bydd yr heol wedi'i chau o 2200 ar 30 Mai i 0600 ar 31 Mai 2019.

 

Cam 2

  • Ffordd slip yr A470 tua'r de i Gyffordd Nantgarw.
  • Ochr ogleddol Cyffordd Nantgarw rhwng Cyffordd Nantgarw a ffordd slip yr A470 tua'r gogledd a ffordd slip yr A470 tua'r de gyda Chyffordd Nantgarw.
  • Cyffordd Nantgarw o'r ffordd slip tua'r de gyda Chyffordd Nantgarw i Heol Caerffili (A468) tua'r gorllewin a'i chyffordd â Chyffordd Nantgarw.

Llwybr Arall - o ochr orllewinol y ffordd sydd wedi'i chau ewch ymlaen ar hyd yr A470 (tua'r gogledd), yr A470 (tua'r de), A470 Rhodfa'r Gogledd, A469 Heol Caerffili, A469 Heol Thornhill, A469 Heol Watford.

Rydyn ni'n disgwyl bydd yr heol wedi cau o 2200 ar 31 Mai i 0600 ar 1 Mehefin 2019.

 

Cam 3

  • Heol Caerffili (A468) o'i chyffordd â Heol-y-Dderwen, tua'r de-orllewin i'w chyffordd â Chyffordd Nantgarw.
  • Cyffordd Nantgarw, o'i chyffordd â Heol Caerffili (A468) tua'r dwyrain, yn glocwedd i'w chyffordd â'r slipffordd tua'r gogledd A470 i Gyffordd Nantgarw.
  • Slip ffordd Cyffordd Nantgarw hyd at yr A470 tua'r de.

Llwybr arall - o ochr ogleddol y ffordd sydd wedi'i chau ewch ymlaen ar hyd Heol Caerffili (A468), A469, Heol Watford (A469), Heol Thornhill (A469), Heol Caerffili (A469) a'r A470.

Rydyn ni'n disgwyl bydd yr heol wedi'i chau o 2200 ar 3 Mehefin hyd at 0400 ar 4 Mehefin 2019.

Mae angen y cyfyngiad fel bydd modd cynnal y gwaith ar y
ffordd neu yn ei hymyl.

Yn ôl