Arriva Cymru
O ddydd Llun 10 Mehefin ymlaen, bydd yr A539/B5605 (Cyffordd Rhiwabon) ar gau oherwydd gwaith ffordd a gyflawnir rhwng 7pm a 6am am 5 noson. Bydd hynny’n effeithio ar wasanaeth 5.
I gyfeiriad Llangollen
Bydd y bysiau’n gweithredu fel arfer hyd at Johnstown, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Stryt Las, Afoneitha Road, Copperas Corner, Plas Bennion Road a heibio i Blas Madoc, ac yna’n dilyn eu llwybr arferol i Langollen.
I gyfeiriad Wrecsam
Bydd y bysiau’n gweithredu fel arfer hyd at Blas Madoc, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Plas Bennion Road, Copperas Corner, Afoneitha Road, Rhos Church Street, Gutter Hill a heibio i Johnstown, ac yna’n dilyn eu llwybr arferol i Wrecsam.
Ni fydd teithiau gyda’r nos yn gwasanaethu Rhiwabon nac Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall.
Lloyds Coaches
Bydd angen i wasanaeth T3 gael ei ddargyfeirio drwy Ben-y-cae ac ni fydd yn gallu gwasanaethu arosfannau bysiau yn Rhiwabon.
Bydd gwasanaeth T3 o’r Bermo i Wrecsam am 17.00 a 19.00 yn dilyn ei lwybr arferol i Blas Madoc ac yna’n cael ei ddargyfeirio ar hyd Plas Bennion Road ac Afoneitha Rd, drwy Ben-y-cae, ac ar hyd Gutter Hill, Rhos cyn ailymuno â’i lwybr arferol yn New Inn, Johnstown.
Bydd gwasanaeth T3 o Wrecsam i’r Bermo am 20:30 yn dilyn ei lwybr arferol i’r Co-op yn Johnstown, yna’n teithio ar hyd Stryt Las ac Afoneitha Road, drwy Ben-y-cae, ac ar hyd Plas Bennion Road cyn ailymuno â’i lwybr arferol wrth ymyl Plas Madoc.