First Cymru
Mae newidiadau’n cael eu gwneud i Wasanaethau Parcio a Theithio 501 a 502 Abertawe a fydd yn gorffen gweithredu yn eu ffurf bresennol cyn bo hir.
- Bydd gwasanaeth 501 yn gweithredu am y tro olaf ddydd Sadwrn 15 Mehefin 2019
- O ddydd Llun 17 Mehefin ymlaen, bydd gwasanaeth 34 yn gwasanaethu safle Parcio a Theithio Glandŵr
- Bydd gwasanaeth 502 yn gweithredu am y tro olaf ddydd Sadwrn 15 Mehefin 2019
- O ddydd Llun 17 Mehefin ymlaen, bydd gwasanaeth 8 yn gwasanaethu safle Parcio a Theithio Ffordd Fabian
Bydd yr amserlenni terfynol ar gyfer yr amrywiadau i wasanaethau i’w gweld ar ein gwefan yn ystod yr wythnosau nesaf.
Nodwch na fydd cost ac amlder y gwasanaethau’n newid.