Bydd Llanwonno Road ar gau o’r gyffordd ag Arthur Street i’r gyffordd â Hawthorn Terrace.
Rhaid cau’r ffordd er mwyn hwyluso gwaith atgyweirio brys ar y ffordd gerbydau.
Disgwylir y bydd y ffordd ar gau rhwng 8:00pm ar 26 Mehefin a 4:00am ar 27 Mehefin 2019 a rhwng 8:00pm ar 27 Mehefin a 4:00am ar 28 Mehefin 2019 neu ba amser bynnag y bydd y gwaith wedi’i orffen.
Dyma’r llwybr amgen tra bydd y ffordd ar gau: O ochr ogleddol y rhan o’r ffordd a fydd ar gau, ewch ar hyd Llanwonno Road, High Street, Commercial Street, Oxford Street/Henry Street, Miskin Road, Penrhiwceiber Road, Abercynon Road, Glamorgan Street a Hawthorn Terrace er mwyn cyrraedd ochr ddeheuol y rhan o’r ffordd a fydd ar gau.
Os ydych yn gyrru i’r cyfeiriad arall, dilynwch y cyfarwyddiadau uchod am yn ôl.