Problemau teithio

Bws Caerdydd

O 12:00pm ddydd Gwener 13 Medi tan ddiwedd y gwasanaeth ddydd Sul 15 Medi, bydd gwasanaethau 91, 92, 93 a 94 yn cael eu dargyfeirio ym Mhenarth. Mae hynny oherwydd bod Picnic Penarth yn cael ei gynnal.

Yn ystod y cyfnod hwn, bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd High Street, Plassey Street ac Albert Road i’r ddau gyfeiriad. Ni fydd yr arhosfan bysiau y tu allan i Arcêd Windsor ar Windsor Road yn cael ei ddefnyddio a bydd bysiau’n gwasanaethu arhosfan dros dro y tu allan i’r toiledau cyhoeddus ar Albert Road yn lle hynny.

Bydd yr arhosfan bysiau ar Windsor Terrace y tu allan i fwyty Mint and Mustard yn cael ei ddefnyddio o hyd.

Yn ôl