Mae rhai problemau teithio i’w cael ar rwydwaith rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru oherwydd llifogydd.
Bydd y rheilffordd rhwng y Drenewydd a Machynlleth ar gau tan y gwasanaeth diwethaf ddydd Mawrth (1/10/2019).
Bydd bysiau yn lle trenau’n cludo teithwyr rhwng Machynlleth a’r Drenewydd yn ystod y cyfnod dan sylw.
O ganlyniad i’r problemau hyn bydd y gwasanaeth trenau yn gweithredu’n llai aml nag arfer, sef bob 2 awr rhwng Amwythig a’r Drenewydd a bob 2 awr rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.
Cofiwch edrych ar dudalen Trafnidiaeth Cymru ar wefan Journey Check i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn fyw am statws eich gwasanaeth drwy gydol y dydd heddiw ac yfory.