Bydd ffyrdd yn cael eu cau dros dro ar hyd a lled Caerdydd ddydd Sul 6 Hydref ar gyfer Hanner Marathon Caerdydd. Bydd y ffyrdd yn agor ac yn cau ar wahanol amserau a bydd rhai ohonynt yn cael eu cau yn eu tro. Mae mwy o wybodaeth i’w chael isod am y dargyfeiriadau a fydd ar waith yn ystod y cyfnodau dan sylw.
Cyngor Caerdydd
Bws Caerdydd
Stagecoach yn Ne Cymru
Newport Bus
NAT
Cyngor Caerdydd
O 4.00am tan 12 canol dydd, ddydd Sul 6 Hydref
- Heol y Gogledd i’r de o’r gyffordd â Boulevard de Nantes i’r gyffordd â’r A4161
- Yr A4161 o’r gyffordd â Heol y Gogledd i’r gyffordd â Ffordd y Brenin
- Ffordd y Brenin o’r gyffordd â’r A4161 i’r gyffordd â Heol y Dug
- Heol y Dug a Heol y Castell
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Castell i’r gyffordd â Heol y Gadeirlan.
O 6.00am tan 10.45am ddydd Sul 6 Hydref
- Heol y Gogledd o’r gyffordd â Colum Road i’r gyffordd â Boulevard de Nantes (mynediad i’r Gored Ddu trwy Blas-y-Parc/Heol Corbett, i gyfeiriad y gogledd ar hyd Heol y Gogledd).
O 10.00am tan 3.10pm ddydd Sul 6 Hydref
- Colum Road
- Plas-y-Parc o’r gyffordd â Phlas Sant Andreas i’r gyffordd â Colum Road.
O 9.00am tan 3.10pm ddydd Sul 6 Hydref
- Mynediad yn unig i Beatty Avenue o’r gyffordd â Lake Road North (gan gynnwys Jellicoe Gardens, Keyes Avenue a Tyrwhitt Crescent)
- Caiff mynediad i Queen Anne Square ei reoli trwy Colum Road/Heol Corbett a bydd modd ymadael trwy Heol Corbett/Heol y Gogledd i gyfeiriad y gogledd
- Lady Mary Road o’r gyffordd â Maryport Road i’r gyffordd â Lake Road East.
Caiff y ffyrdd canlynol eu cau yn eu tro o 9am tan 3.10pm ddydd Sul 6 Hydref
- Heol Ddwyreiniol y Bont-faen o’r gyffordd â Heol y Gadeirlan i’r gyffordd â Neville Street
- Wellington Street, Heol Lecwydd a Sloper Road
- Heol Penarth, Morglawdd Bae Caerdydd, Rhodfa’r Harbwr a Phlas Roald Dahl
- Plas Bute, Rhodfa Lloyd George a Stryd Herbert
- Tyndall Street, East Tyndall Street a Windsor Road
- Adam Street, Fitzalan Place yn croesi ar draws Heol Casnewydd
- West Grove, Richmond Road ac Albany Road
- Blenheim Road, Marlborough Road a Ninian Road
- Fairoak Road, Lake Road East a Lake Road West
- Cathays Terrace, Heol Corbett a Rhodfa’r Amgueddfa
Bws Caerdydd
Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio a byddant yn dechrau/gorffen eu taith mewn mannau gwahanol i’r arfer yng nghanol y ddinas. Ni fydd bysiau’n gallu gwasanaethu canol y ddinas ar rai adegau, a byddant yn dechrau/gorffen eu taith o fannau sydd mor agos ag sy’n bosibl i ganol y ddinas. Isod, fe welwch chi fanylion llawn ynghylch ble y dylech ddal eich bws tra bydd y ffyrdd ar gau:
✓ Arosfannau a fydd yn cael eu defnyddio
✕ Arosfannau na fyddant yn cael eu defnyddio
Rhif y llwybr |
Amser |
Man dechrau/gorffen yng nghanol y ddinas / Dargyfeiriad |
6 (baycar) * |
O amser y bws cyntaf tan 13:00 |
Ni fydd y gwasanaeth hwn yn gweithredu yn ystod y bore. Bydd y bysiau’n dechrau gweithredu: |
8 a 9 i/o Fae Caerdydd neu’r Pentref Chwaraeon |
O amser y bws cyntaf tan 13:00 |
Ni fydd y bysiau’n teithio’r holl ffordd o Ysbyty’r Waun i Fae Caerdydd/y Pentref Chwaraeon; dim ond o ganol y ddinas i Fae Caerdydd/y Pentref Chwaraeon y byddant yn teithio. ✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) |
8 a 9 i/o Ysbyty’r Waun |
O amser y bws cyntaf tan 13:00 |
Ni fydd y bysiau’n teithio’r holl ffordd o Fae Caerdydd/y Pentref Chwaraeon i Ysbyty’r Waun; dim ond mor bell â chanol y ddinas y byddant yn teithio. ✓ Ffordd Churchill |
O amser y bws cyntaf tan 10:30 |
O ganol y ddinas i Ysbyty’r Waun: Bydd y bysiau’n dechrau o Ffordd Churchill ac yn cael eu dargyfeirio ar hyd Plas-y-Parc, Colum Road a Heol y Gogledd i Gyfnewidfa Gabalfa. ✓ Ffordd Churchill ✕ Heol y Ddinas ✕ Crwys Road ✕ Whitchurch Road |
|
O 10:30 tan 15:10 |
O ganol y ddinas i Ysbyty’r Waun: Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Boulevard de Nantes a Heol y Gogledd i Gyfnewidfa Gabalfa. ✓ Ffordd Churchill ✓ Heol y Porth (ar ôl 13:00) ✓ Arcêd Wyndham (ar ôl 13:00) ✓ Bute Terrace (ar ôl 13:00) ✓ Tŷ Southgate (Stryd Wood) (ar ôl 13:00) ✕ Heol y Ddinas ✕ Crwys Road ✕ Whitchurch Road |
|
O amser y bws cyntaf tan 15:10 |
O Ysbyty’r Waun i ganol y ddinas: Bydd y bysiau’n gadael yr ysbyty ar hyd Rhydhelig Avenue ac yn teithio ar hyd Whitchurch Road o Gyfnewidfa Gabalfa i Dŷ’r Cwmnïau. Yna, bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio ar hyd Ffordd y Goron a Heol y Gogledd i ganol y ddinas (Ffordd Churchill tan 12:00). ✕ Gwesty’r Heath ✕ Llyfrgell Cathays ✕ Crwys Road ✕ Heol y Ddinas ✕ Heol Casnewydd |
|
11 |
07:36 o Bengam Green |
Bydd y bws hwn yn dilyn ei lwybr arferol i Heol Casnewydd, ac yna bydd yn cael ei ddargyfeirio i Heol y Tollty ar hyd Rhodfa’r Orsaf a Bute Terrace. ✕ Plas Dumfries ✕ Heol y Brodyr Llwydion ✕ Ffordd y Brenin ✕ Heol y Porth ✕ Arcêd Wyndham |
O 09:00 tan 13:00 |
✓ Yr ysbyty (East Grove/Heol Casnewydd – gweler y map) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
|
13 |
O amser y bws cyntaf tan 11:30 |
✓ Treganna (Home Bargains) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
O 11:30 tan 12:30 |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth ✕ Pont Caerdydd |
|
17 ac 18 |
O amser y bws cyntaf tan 09:00 |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth |
O 09:00 tan 11:00 |
✓ Treganna (Home Bargains) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
|
O 11:00 tan 12:00 |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth |
|
21, 23, 24 a 27 |
O amser y bws cyntaf tan 12:00 |
✓ Heol y Brodyr Llwydion ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
25 |
O amser y bws cyntaf tan 12:00 |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth |
28B |
O amser y bws cyntaf tan 12:00 |
✓ Heol y Brodyr Llwydion ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
O amser y bws cyntaf tan 10:30 |
Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio rhwng canol y ddinas a Fidlas Road i’r ddau gyfeiriad, a byddant yn teithio ar hyd Plas-y-Parc, Colum Road, Heol y Gogledd, Caerphilly Road a Heathwood Road. ✓ Heol y Brodyr Llwydion ✕ West Grove |
|
O 10:30 tan 14:30 |
Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio rhwng canol y ddinas a Fidlas Road i’r ddau gyfeiriad, a byddant yn teithio ar hyd Boulevard de Nantes, Heol y Gogledd, Caerphilly Road a Heathwood Road. ✓ Heol y Brodyr Llwydion ✕ West Grove |
|
30 |
O amser y bws cyntaf tan 13:00 |
✓ Yr ysbyty (East Grove/Heol Casnewydd) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
35 |
11:00 |
Bydd y bws hwn yn dechrau o Heol y Brodyr Llwydion ac yn teithio ar hyd Plas-y-Parc, Colum Road a Heol y Gogledd i Gyfnewidfa Gabalfa. ✓ Heol y Brodyr Llwydion ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
12:00 |
Bydd y bws hwn yn dechrau o Heol y Brodyr Llwydion ac yn teithio ar hyd Boulevard de Nantes a Heol y Gogledd i Gyfnewidfa Gabalfa. ✓ Heol y Brodyr Llwydion ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
|
O amser y bws cyntaf tan 14:30 |
O Gyfnewidfa Gabalfa, bydd y bysiau’n teithio ar hyd Whitchurch Road (Tŷ’r Cwmnïau) ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Ffordd y Goron a Heol y Gogledd. |
|
44 a 45, 49 a 50 |
O amser y bws cyntaf tan 09:00 |
✓ Gwesty’r Royal ✕ Pob arhosfan arall yng nghanol y ddinas |
O 09:00 tan 13:00 |
✓ Yr ysbyty (East Grove/Heol Casnewydd – gweler y map isod) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
|
52, 57 a 58 |
O amser y bws cyntaf tan 09:00 |
✓ Gwesty’r Royal ✕ Pob arhosfan arall yng nghanol y ddinas |
O 09:00 tan 13:00 |
✓ Yr ysbyty (East Grove/Heol Casnewydd – gweler y map isod) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
|
O 09:00 tan 14:00 |
Bydd y bysiau’n teithio rhwng canol y ddinas a Pen-y-lan ar hyd Heol Casnewydd a Colchester Avenue i’r ddau gyfeiriad. |
|
61 |
06:25 a 07:35 o Bentre-baen |
Bydd y bysiau’n gorffen eu taith yn y Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) |
08:11 o ganol y ddinas |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth |
|
O 09:00 tan 11:00 |
✓ Treganna (Home Bargains) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
|
O 11:00 tan 12:00 |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth |
|
63 |
O amser y bws cyntaf tan 12:00 |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth |
92 a 94 |
O amser y bws cyntaf tan 12:00 |
Bydd y bysiau’n cael eu dargyfeirio i’r ddau gyfeiriad rhwng canol y ddinas a Phenarth. Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol i Cornwall Street ac yna’n teithio ar hyd North Clive Street, Clive Street, Ferry Road, yr A4232 – Ffordd Gyswllt Trelái, Cyfnewidfa Lecwydd, Leckwith Hill, Llandochau, Redlands Road, Foxglove Rise, Bramble Rise, Cowslip Drive a Pill Street. Bydd bysiau o Benarth i Gaerdydd yn teithio i’r cyfeiriad arall ar hyd llwybr y dargyfeiriad. ✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Virgil Street |
95 |
-- |
Bydd y bysiau’n dilyn eu llwybr arferol. ✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) |
96A |
O amser y bws cyntaf tan 11:00 |
✓ Treganna (Home Bargains) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
O 11:00 tan 12:00 |
✓ Sgwâr Canolog (y tu allan i adeilad newydd y BBC) ✕ Heol y Porth |
|
X59 |
O 09:00 tan 13:00 |
✓ Yr ysbyty (East Grove/Heol Casnewydd – gweler y map isod) ✕ Pob arhosfan yng nghanol y ddinas |
Stagecoach yn Ne Cymru
Bydd bysiau Stagecoach yn dechrau ac yn gorffen eu taith yn Heol y Brodyr Llwydion drwy gydol y dydd.
O amser y bws cyntaf tan 10:45, bydd bysiau’n teithio ar hyd Colum Road a Phlas-y-Parc. O 10:45 tan 16:00, bydd bysiau’n teithio ar hyd Heol y Gogledd.
- Bydd gwasanaethau 132/T4 yn aros y tu allan i Westy’r Park Plaza yn hytrach nag wrth yr arhosfan arferol.
- Bydd gwasanaeth 122 yn cael ei ddargyfeirio trwy Gyfnewidfa Gabalfa ac ar hyd Heol y Gogledd ac ni fydd yn gwasanaethu Heol y Gadeirlan na Bae Caerdydd tan 13:00.
- Ni fydd gwasanaeth 132 yn gwasanaethu Bae Caerdydd tan 13:00.
Newport Bus
30 Service will start and end at the Infirmary Bus Stop (East Grove/Newport Road junction) from the first bus until 13:00.
NAT
All city centre services will divert from 9am until 1pm. Please see below or click here for details of these changes.