Problemau teithio

First Cymru

Bydd Cyngor Abertawe yn rhoi wyneb newydd ar Ffordd y Brenin a strydoedd cyfagos yng nghanol y ddinas rhwng 18:30 a 06:00 o ddydd Llun 14 Hydref tan ddydd Iau 17 Hydref 2019.

Yn ystod y cyfnod dan sylw, bydd y dargyfeiriadau canlynol ar waith:

 

Gwasanaethau 4/4A ac X6 Treforys a Chwm Tawe: Byddant yn teithio ar hyd y Stryd Fawr a Sgwâr y Santes Fair i’r ddau gyfeiriad o ddydd Llun 14 Hydref tan ddydd Mercher 16 Hydref. Ddydd Iau 17 Hydref, bydd POB GWASANAETH I GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS yn teithio ar hyd y Strand.

 

Gwasanaethau 2A a 3A y Mwmbwls: Byddant yn teithio ar hyd Heol Ystumllwynarth I GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS i Orsaf Fysiau Abertawe o ddydd Llun 14 Hydref tan ddydd Mercher 16 Hydref. Ddydd Iau 17 Hydref, bydd y gwasanaethau’n dychwelyd i’w llwybr arferol ar hyd Heol San Helen. Ni fydd y gwaith yn effeithio ar wasanaethau O GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS.

 

Gwasanaethau 20/20A Sgeti a Chilâ: Byddant yn teithio ar hyd Sgwâr y Santes Fair, Ffordd y Brenin a Stryd Christina O GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS ac ar hyd y Stryd Fawr I GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS o ddydd Llun 14 Hydref tan ddydd Mercher 16 Hydref. Ddydd Iau 17 Hydref, bydd y gwasanaethau’n dychwelyd i’w llwybr arferol.

 

Gwasanaethau 25, 28 a 36 Blaen-y-maes, Pen-lan a Threforys: Byddant yn teithio ar hyd y Stryd Fawr a Sgwâr y Santes Fair i’r ddau gyfeiriad o ddydd Llun 14 Hydref tan ddydd Mercher 16 Hydref. Ddydd Iau 17 Hydref, bydd POB GWASANAETH I GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS yn teithio ar hyd y Strand a bydd POB GWASANAETH O GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS yn dilyn eu llwybr arferol.

 

Gwasanaethau 111 ac X13 Llanelli a Rhydaman: Bydd gwasanaethau I GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS yn teithio ar hyd y Strand o ddydd Llun 14 Hydref tan ddydd Iau 17 Hydref. Bydd gwasanaethau O GYFEIRIAD CANOL Y DDINAS yn ystod y dydd yn teithio ar hyd Sgwâr y Santes Fair a’r Stryd Fawr.

 

Dylai cwsmeriaid First Cymru nodi y gallai fod rhywfaint o oedi i wasanaethau oherwydd y dargyfeiriadau hyn. At hynny, dylech nodi na fydd gwasanaethau 111 ac X13 yn gallu gwasanaethu’r Orsaf Reilffordd o ddydd Llun 14 Hydref tan ddydd Iau 17 Hydref. Yn ogystal, ni fydd POB gwasanaeth i gyfeiriad canol y ddinas yn gallu gwasanaethu’r Orsaf Reilffordd ddydd Iau 17 Hydref.

 

Yn ôl