Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

O ddydd Mawrth 15 Hydref tan ddydd Sadwrn 19 Hydref, bydd newidiadau i wasanaeth rhif 9 Stagecoach yn Ne Cymru gyda’r hwyr oherwydd bod Ffordd Blaenau’r Cymoedd ar gau ddydd Mawrth, dydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn.

Ni fydd gwasanaeth rhif 9 sy’n gadael Glynhafod am 22:13 yn gallu parhau i Ferthyr Tudful. Bydd y gwasanaeth hwn yn dod i ben yn Hirwaun, Maes y Coed.

Bydd gwasanaeth 22:35 o Ferthyr Tudful yn dechrau yn Hirwaun, Maes y Coed am 22:51.

Yn ôl