Problemau teithio

Brodyr Richards

Nodwch y bydd y ffordd rhwng Post-mawr a Cheinewydd ar gau yn Cross Inn rhwng 9.00am a thua 1.00pm ar 01/11/2019, oherwydd gwaith atgyweirio brys gan Dŵr Cymru.

Ni fydd gwasanaeth T5 yn teithio rhwng Post-mawr a Cheinewydd yn ystod y cyfnod dan sylw.

Bydd pob bws o Aberystwyth ac Aberaeron yn troi’n ôl yng Ngheinewydd, yn teithio’n ôl i Lannarth, ac yna’n mynd ar hyd y brif ffordd i Bost-mawr ac ymlaen i Aberteifi. Dylech nodi y gallai’r dargyfeiriad hwn olygu na fydd cysylltiadau â’r gwasanaeth o Aberteifi i Abergwaun yn bosibl.

Bydd pob bws o Aberteifi yn teithio o Bost-mawr i Lannarth cyn troi am Geinewydd. Byddant wedyn yn troi’n ôl yng Ngheinewydd, yn teithio’n ôl i Lannarth, ac yna’n mynd ymlaen i Aberaeron ac Aberystwyth. Dylech nodi y gallai’r dargyfeiriad hwn olygu na fydd cysylltiadau â gwasanaeth T1 yn bosibl ar y teithiau hyn.

Yn ôl