Problemau teithio

Bydd Rhiw Tŷ Neint (y rhiw gul rhwng Corris Uchaf a Minffordd), Gwynedd ar gau dros dro ar 17 Tachwedd.

Caiff y ffordd ei chau ar ran BT tra byddant yn gosod polyn newydd yn lle hen un.

Ni fydd modd i gerbydau’r gwasanaethau brys gael mynediad oherwydd bod y ffordd mor gul.

Bydd yn rhaid i unrhyw gerbyd dros 2.5m o led ddefnyddio llwybr y dargyfeiriad, sef yr A487 i’r Cross Foxes Inn, yr A470 i Fallwyd ac i Lantwymyn a’r A489 i Fachynlleth er mwyn ailymuno â’r A487 o Fachynlleth i Gorris, ac i’r gwrthwyneb.

Yn ôl