Problemau teithio

Bydd y trefniadau cau ffyrdd canlynol ar waith ar gyfer gorymdeithiau Sul y Cofio:

Penlline Road, Yr Eglwys Newydd O 10.30am tan 12.00pm o’r gyffordd â Merthyr Road i’r gyffordd â’r gylchfan ar Kelston Road.

 

Bws Caerdydd - 10:30 - 12:00

  • Bydd gwasanaethau 21 a 23 yn cael eu dargyfeirio i’r ddau gyfeiriad ar hyd Church Road, Heol Don a Velindre Road.
  • Bydd gwasanaeth 24 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Church Road, Heol Don a Velindre Road o gyfeiriad canol y ddinas tuag at Lyfrgell yr Eglwys Newydd.
  • Bydd gwasanaeth 25 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Velindre Road, Heol Don a Church Road i gyfeiriad canol y ddinas tuag at bentref yr Eglwys Newydd.
  • Ni fydd arosfannau Penlline Court a Phlas-y-Llan yn Penlline Road yn cael eu gwasanaethu.

Heol Isaf, Radur O 10.30am tan 12.30pm o’r gyffordd â Windsor Road i’r gyffordd â Rectory Close, a King’s Road o’r gyffordd â Heol Isaf i’r gyffordd â Taff Terrace.

 

Bws Caerdydd - 09:55 - 12:55

  • Bydd gwasanaeth 63 yn gorffen ei daith yn Danescourt Way (Heol Seddon) ac ni fydd yn gwasanaethu Radur, Pentyrch a Chreigiau.
  • Y bws cyntaf i deithio’r holl ffordd i Radur, Pentyrch a Chreigiau fydd y bws sy’n gadael Heol y Porth am 12:55.
  • Y bws cyntaf i deithio o Greigiau i Gaerdydd fydd y bws sy’n gadael y Creigiau Inn am 13:45.
  • Mae’n bosibl y bydd y bws sy’n gadael Creigiau am 14:45 yn gorfod aros am ychydig ger y gofeb ym Mhentyrch.

Heol Goch, Pentyrch O 14.50 tan 15.30 o’r gyffordd â Heol y Pentre i’r gyffordd â Berthllwyn.

 

 

Lisvane Road O 10.45am tan 11.10am o’r gyffordd â Church Road i Glos Coed y Dafarn.

 

 

Tŷ’r Winch Road, o Church Lane (Eglwys Blwyf Llaneirwg) i ddiwedd y ffordd ger cyffordd y Coach House â Heol Casnewydd, ac yna Heol Casnewydd o Dŷ’r Winch Road i Chapel Row 11:30am- 12:40pm.

 

Bws Caerdydd - 11:30 - 12:40

  • Bydd gwasanaeth 30 yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Llaneirwg Way, Greenway Road a New Road i’r ddau gyfeiriad.
  • Ni fydd arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd, o’r Bluebell Inn i waelod Rumney Hill, yn cael eu gwasanaethu.

Y Ganolfan Ddinesig Bydd trefniadau cau ffyrdd ar waith o 22.00 ar 9 Tachwedd tan 14.00 ar 10 Tachwedd. Bydd Heol Gerddi’r Orsedd, Heol Neuadd y Ddinas, Heol y Coleg, Rhodfa’r Brenin Edward VII a Rhodfa’r Amgueddfa i gyd ar gau ar eu hyd.

 

Wentloog Road

Bws Caerdydd - 10:45 - 11:15

  • Bydd gwasanaeth 45 yn cael ei ddargyfeirio i’r ddau gyfeiriad ar hyd New Road a Greenway Road.
  • Ni fydd arosfannau bysiau ar hyd Heol Casnewydd o waelod Rumney Hill ac ar hyd Wentloog Road, Cae Glas Road, Nevin Crescent a Rhyl Road yn cael eu gwasanaethu i’r naill gyfeiriad na’r llall.

Senotaff y Barri, Heol Holton (y tu allan i’r swyddfeydd dinesig)

Bws Caerdydd - 11:00

  • Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i draffig aros am gyfnod byr ger y Senotaff, Heol Holton, Y Barri am tua 1100 tra bydd pobl yn sefyll yn dawel i ddangos parch. Bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau 94, 95, 96a a 100.

Senotaff Penarth, Rectory Road

Bws Caerdydd - 14:00

  • Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i draffig aros am gyfnod byr ger y Senotaff, Rectory Road, Penarth am tua 1400 tra bydd pobl yn sefyll yn dawel i ddangos parch. Bydd hynny’n effeithio ar wasanaethau 92 a 94.
Yn ôl