First Cymru
Bydd Stryd y Gwynt, Sgwâr y Castell a Sgwâr y Santes Fair ar gau ar yr amserau a’r dyddiadau canlynol drwy gydol mis Rhagfyr:
- O 14:00 ymlaen ddydd Gwener 13 Rhagfyr 2019
- O 14:00 ymlaen ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr 2019
- O 14:00 ymlaen ddydd Mercher 18 Rhagfyr 2019
- O 14:00 ymlaen ddydd Iau 19 Rhagfyr 2019
- O 14:00 ymlaen ddydd Gwener 20 Rhagfyr 2019
- O 14:00 ymlaen ddydd Sadwrn 21 Rhagfyr 2019
- O 14:00 ymlaen ddydd Mawrth 24 Rhagfyr 2019
- O 14:00 ymlaen ddydd Iau 26 Rhagfyr 2019
- O 18:00 ymlaen ddydd Mawrth 31 Rhagfyr 2019
Bydd gwasanaethau sydd fel rheol yn teithio ar hyd Sgwâr y Santes Fair, Stryd Caer, Sgwâr y Castell, Stryd y Castell a Rhan Isaf y Stryd Fawr yn cael eu dargyfeirio.
Bydd gwasanaethau’n ymadael o Orsaf Fysiau Abertawe ac yn cael eu dargyfeirio ar hyd Stryd Christina heb aros yno. Byddant yn ailddechrau gwasanaethu arosfannau wrth yr Orsaf yn y Stryd Fawr. Mae hynny’n golygu na fydd gwasanaethau’n gallu casglu teithwyr wrth yr arosfannau sydd ar y rhan o’r llwybr yr effeithir arni.
Dylai cwsmeriaid sydd fel rheol yn dal bysiau wrth yr arosfannau yr effeithir arnynt ddal eu bysiau yng Ngorsaf Fysiau Abertawe yn lle hynny.