Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Cardiff Road, Dinas Powys ar gau dros dro o gylchfan Tŷ Verlon i gyffordd Cross Common Road dros nos rhwng 20:00 a 06:00 bob nos o ddydd Llun 24 Chwefror tan ddydd Gwener 28 Chwefror. Mae hynny oherwydd gwaith ffordd.

Bydd gwasanaeth 95 yn cael ei ddargyfeirio rhwng y Merrie Harrier a Thŷ Verlon ar hyd Redlands Road, Lavernock Road, South Road (trwy Sili) a Sully Moors Road i’r ddau gyfeiriad.

Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Cardiff Road o’r Merrie Harrier, trwy Ddinas Powys i Arnold House yn cael eu gwasanaethu i’r naill gyfeiriad na’r llall.

Yn ôl