Problemau teithio

Stagecoach yn Ne Cymru

Bydd ffordd Blaenau’r Cymoedd ar gau i bob math o draffig nos Wener 27 Mawrth (ar ôl amser y bws olaf) a thrwy gydol dydd Sadwrn a dydd Sul rhwng Bryn-mawr a Gilwern (Cylchfan Glanbaiden). 

Dydd Sadwrn 28 Mawrth 2020

NI fydd gwasanaeth 3, Bryn-mawr – Y Fenni, yn rhedeg ond bydd y contractwr yn darparu gwasanaeth rhannol yn ei le gan ddefnyddio cerbyd bach.

Cliciwch yma i weld amserlen y gwasanaeth hwnnw.         

Gwasanaeth X4: Defnyddir bysiau bach i alluogi pobl i deithio rhwng Bryn-mawr a’r Fenni. Bydd gofyn i deithwyr sy’n teithio o’r gorllewin i gyfeiriad y dwyrain neu o’r dwyrain i gyfeiriad y gorllewin ar draws Bryn-mawr newid o fws mawr i fws bach. Bydd y dargyfeiriad yn un hir a bydd angen i gwsmeriaid sy’n teithio i’r Fenni neu o’r Fenni ddechrau eu taith yn gynt.

Cliciwch yma i weld yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer y gwasanaeth hwn.

Ni fydd gwasanaeth X4 yn gweithredu o gwbl ddydd Sul.

 

Yn ôl