Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Merthyr Road, Caerdydd ar gau dros dro er mwyn atgyweirio rhannau o’r ffordd wrth ymyl Canolfan Siopa’r Eglwys Newydd rhwng yr amserau canlynol ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mercher 28 Hydref o 19:30 tan 23:59
  • Dydd Iau 29 Hydref o 19:30 tan 23:59
  • Dydd Gwener 30 Hydref o 19:30 tan 23:59

Yn ystod y cyfnodau hyn, bydd gwasanaethau 21 a 23 yn cael eu dargyfeirio ar hyd Manor Way a Northern Avenue i’r ddau gyfeiriad ac ni fyddant yn aros wrth yr arosfannau bysiau ar The Philog, Merthyr Road, Penlline Road, Park Road a Pantmawr Road (Pendwyallt Road i Northern Avenue).

Dylech ddefnyddio’r arosfannau bysiau ar hyd llwybr y dargyfeiriad yn lle hynny.

Yn ôl