Problemau teithio

Bydd system unffordd i gyfeiriad y gogledd yn gweithredu ar hyd Heol y Porth o 5am ddydd Iau 29 Hydref tan ganol nos nos Wener 6 Tachwedd.

Diben hynny yw hwyluso’r gwaith ar Heol y Porth i ledu’r palmant ar yr ochr ddwyreiniol, yn unol â’r newidiadau ychwanegol sy’n cael eu gwneud yng nghanol y ddinas o ganlyniad i COVID.

Bydd y system unffordd yn mynd o Heol y Parc i Heol y Castell. Bydd y ffordd ar gau o westy’r Angel i’r gyffordd â Heol y Parc.

 

Cardiff Bus

Bydd arhosfan bysiau Ysbyty Dewi Sant ar gyfer bysiau i gyfeiriad canol y ddinas ar gau rhwng 05:00 ddydd Iau 29 Hydref a 23:59 nos Wener 6 Tachwedd.

Bydd bysiau 13, 15, 17/18, 61, 64 a 96A yn cael eu dargyfeirio ar hyd Neville Street, Dispenser Street, Fitzhamon Embankment a Stryd Wood i Heol y Porth. Dylech ddefnyddio’r arhosfan amgen agosaf yn Neville Street.

 

Stagecoach yn Ne Cymru

Oherwydd bod Heol y Porth ar gau i gyfeiriad y de, bydd bysiau gwasanaethau 122 a 124 yn cael eu dargyfeirio yng Nghaerdydd.

Ni fydd bysiau i gyfeiriad Caerdydd yn gallu troi i’r chwith o Heol y Gadeirlan i mewn i Heol y Castell. Wrth y goleuadau, felly, byddant yn mynd yn syth yn eu blaen i ran isaf Heol y Gadeirlan ac yna’n mynd dros y bont i ran isaf Heol Eglwys Fair.

Bydd gwasanaethau 122 a 124 o Gaerdydd i gyfeiriad Maerdy yn gweithredu’n ôl yr arfer.

Yn ôl