Bws Caerdydd
Bydd bysiau’n cael eu dargyfeirio fel a ganlyn er mwyn sicrhau diogelwch cwsmeriaid a staff nos Sadwrn 31 Hydref:
Gwasanaeth 11
Bydd bysiau sy’n gadael canol y ddinas o 18:10 ymlaen yn dilyn eu llwybr arferol hyd at St Saviours/Splott Road, yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Habershon Street, yn troi i’r chwith i mewn i Moorland Road hyd at y Royal Oak, yn troi i’r dde i mewn i Heol Casnewydd, yn troi i’r dde ar hyd Rover Way ac yn ailymuno â’u llwybr arferol i Bengam Green.
Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas o 18:34 ymlaen yn dilyn eu llwybr arferol hyd at Rover Way, yna’n mynd yn syth yn eu blaen i Heol Casnewydd, yn teithio ar hyd Heol Casnewydd hyd at y Royal Oak, yn troi i’r chwith i mewn i Moorland Road, yn troi i’r dde i mewn i Habershon Street hyd at Splott Road ac yn ailymuno â’u llwybr arferol.
Gwasanaeth 13 i/o Drelái a’r Ddrôp
Bydd bws 18:07 o Heol y Porth yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Grand Avenue yn ei chyfanrwydd ac ni fydd yn gwasanaethu Heol-y-Felin, Mill Road, Plymouth Wood Road, Archer Road a Wilson Road.
Bydd bws 17:35 i gyfeiriad canol y ddinas o Mansell Avenue yn cael ei ddargyfeirio ar hyd Grand Avenue yn ei chyfanrwydd ac ni fydd yn gwasanaethu Wilson Road, Archer Road, Plymouth Wood Road a Mill Road.
Gwasanaethau 44 a 45
Bydd bysiau sy’n gadael canol y ddinas o 17:42 ymlaen yn cael eu dargyfeirio ar hyd Greenway Road yn ei chyfanrwydd (44) a Wentloog Road / Greenway Road (45), ac yna byddant yn ailymuno â’u llwybr arferol o amgylch ystâd Llaneirwg.
Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas o 18:10 ymlaen yn dilyn eu llwybr arferol o amgylch ystâd Llaneirwg, ac yna’n cael eu dargyfeirio ar hyd Greenway Road yn ei chyfanrwydd.
Gwasanaethau 49 a 50
Bydd bysiau sy’n gadael canol y ddinas o 17:35 ymlaen yn cael eu dargyfeirio ar hyd Heol Casnewydd hyd at arhosfan bysiau’r Bluebell Inn lle byddant yn gorffen eu taith. Ni fyddant yn gwasanaethu ystâd Llanrhymni.
Bydd bysiau i gyfeiriad canol y ddinas o 18:30 ymlaen yn dechrau wrth arhosfan bysiau’r Bluebell Inn, yn mynd o amgylch cylchfan Llaneirwg Way / Heol Casnewydd, ac yna’n teithio i’r ddinas ar hyd Heol Casnewydd. Ni fyddant yn gwasanaethu ystâd Llanrhymni.