Problemau teithio

Bws Caerdydd

Bydd Birchgrove Road, Caerdydd ar gau dros dro i gyfeiriad y de-orllewin yn unig rhwng Caerphilly Road a Pantbach Road o 08:00 ddydd Llun 23 Tachwedd tan 18:00 ddydd Sul 6 Rhagfyr. Diben hynny yw ei gwneud yn bosibl lledu’r palmant y tu allan i Ysgol Gynradd Llwynbedw.

Bydd gwasanaeth 21 yn cael ei ddargyfeirio i gyfeiriad Rhiwbeina ar hyd Caerphilly Road a Tŷ-Wern Road. Ni fydd yr arosfannau bysiau ar hyd Pantbach Road, rhwng Birchgrove Road a Tŷ-Wern Road, yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio’r arosfannau ar hyd Caerphilly Road yn lle hynny.

Bydd gwasanaeth 64 yn cael ei ddargyfeirio i gyfeiriad yr Eglwys Newydd ar hyd Caerphilly Road a thrwy Gyfnewidfa Gabalfa. Ni fydd yr arosfannau bysiau yn Llwynbedw (ar Caerphilly Road) ac yn Birchgrove Road yn cael eu gwasanaethu. Dylech ddefnyddio arosfannau Rhydhelig Avenue neu The Philog yn lle hynny.

Yn ôl